Blog Ysgol yr Eifl

Friday, December 11, 2009

Wythnos y Cyngerdd Nadolig






Dydd Llun roedd yr ysgol yn ymarfer ein cyngerdd Nadolig am y tro cyntaf yn y Ganolfan yn Nhrefor. Ddydd Mawrth aethom i’r Ganolfan eto a chafodd y plant bach gyfle i wisgo eu dillad.

Ddydd Mercher cawsom berfformio’r cyngerdd Nadolig a pam roedd ni yn gwneud ein symudiadau roedd plant ysgol Glan y Mor yn ein copio ni. Ar ol yr cyngerdd Nadolig roedd Miriam a Kelly yn helpu ni addurno orennau.

Yn gyntaf roedd Miriam yn rhoi ruban o gwmpas yr oren. wedun roedd pawb yn cael 4 ffon bach i rhoi yn yr oren.. Wedyn roedd pawb yn rhoi grawnwin neu fferins ar y 4 ffon bach a wedyn roedd yn rhoi canwyll yn yr canol.

Ddydd Iau arhosodd y plant meithrin tan 1 or gloch am y tro cyntaf am ein bod yn cael cinio Nadolig. I ginio cawsom ginio Nadolig. Roedd pawb wrth eu bodd efo’r cinio. I bwdin cawsom hufen ia clown efo saws siocled.

Gwenno a Lowri

0 Comments:

Post a Comment

<< Home