Blog Ysgol yr Eifl

Friday, February 12, 2010

Wythnos olaf yr hanner tymor

Dydd Llun 8fed o Chwefror roedd yr ysgol wedi cau
oherwydd hyffroddiant i’r athrawon.

Dydd Mawrth daeth Llinos a Hazel i'r ysgol ac mi gawsom wasanaeth gan Llinos a chyfle i helpu Hazel wneud murlun.




Ddydd Iau cawsom wneud crempogau efo Miss Griffith a Mrs Harris, oherwydd bod Dydd Mawrth Crempog yn ystod y gwyliau y tro hwn. Mae’r ysgol yn cau heddiw ac mi gawn ni i gyd wythnos o wyliau – diolch byth.




Steffan, Guto a Catrin

0 Comments:

Post a Comment

<< Home