Blog Ysgol yr Eifl

Monday, September 13, 2010

Cestyll, Clwb Gwau a'r Mwslemiaid

Dydd Llun dae 2 hogyn newydd i ein ysgol. Mae un yn bl.6 ag yr un arall yn bl.2. Hefyd aeth Bl.6 i wnio efo Llinos i’r Clwb Gwau a wedyn cafodd pawb fiscedi a diod oren. Dydd Mawrth oedd diwrnod gyntaf Mrs Griffiths yn yr ysgol hefyd.

Ar ddydd Mercher roedd Mrs Harris yn gwneud gwaith efo ni am y Mwslemiaid. Mae nhw yn gorfod gweddio 5 gwaith yr dydd, ac enw yr wweddi ydi Sallah.

Ddydd Iau cafodd plant bl 3,4,5 a 6 i Gastell Cricieth. Cawsom gawod drom ac roedd rhaid i ni fochel yn y tyllau saethu. Roedd hynny yn hwyl fawr a cawsom ddysgu pob math o bethau gwahanol am gestyll.

Ar ddydd Gwener cawsom nofio am y tro cyntaf ers talwm iawn, gan bod y pwll ym Mhwllheli wedi bod ar gau ers dechrau’r haf.

Rhys ac Osian

Lluniau i ddilyn

0 Comments:

Post a Comment

<< Home