Blog Ysgol yr Eifl

Saturday, December 23, 2006

Wythnos olaf cyn y Nadolig

Yr wythnos yma mae hi wedi bod yn wythnos digon gwlyb a gwyntog, yn arbennig ar ddechrau’r wythnos. Ond doedd o ddim ots, cawsom wneud pob math o bethau diddorol yn ystod yr wythnos.

Dydd Llun cawsom wneud bisgedi sunsur efo Mandy y gogyddes. a cawsom fwyta’r bisgedi dydd Mawrth. Cawsom hefyd wneud calendrau efo llun o bawb yn yr ysgol arnyn nhw. Cawsom hefyd wneud ychydig o waith crefft a chanu carolau.







Aeth plant yr Urdd o gwmpas y pentref yn canu carolau ac yn hel pres i’r Urdd nos Lun.

Ar nos Fawrth roedd bingo yn yr ysgol i hel pres i’r ysgol gydag Anti Caryl yn galw’r rhifau.



Cawsom ein cinio Nadolig ddydd Iau. Roedd cyw iar, tatws rhost, sbrowts, a moron am y prif gwrs ac am ail gwrs roeddem yn cael dewis o bwdin dolig, minspeis neu hufen ia. Wedyn cawsom gemau o musical chairs a musical statues. Dydd Gwener oedd diwrnod olaf y tymor a chawsom ddod a fideos a DVDs a gemau i’r ysgol.





Yn y prynhawn planodd Elain ac Elin goeden yn yr ardd wyllt, fel rhan o’r Cynllun Ysgol Werdd. Rydym yn gobeithio cael medal arian eleni.



Wedyn cawsom hwyl yn edrych ar rhai o'r genod yn perfformio sioe.





Ar ddiwedd y diwrnod cawdom fynd a bagiau fferins adref efo ni.



Rhiannon a Molly

Monday, December 18, 2006

Cynnal y gwasanaeth o'r diwedd

Ar dydd Iau cafodd y gwasanaeth Dolig ei gynnal o’r diwedd yng Nghapel Gosan.

Stori Babwshca, stori o Rwsia oedd prif thema’r gwasanaeth. Aeth o’n dda iawn, ar wahan i ambell i gamgymeriad bach. Chwarddodd Elizabeth a
Sioned ar y cychwyn ac anghofiodd Haydn rhai o’i eiriau. Ond at ei gilydd roedd o’n dda iawn a chawsom hwyl wrth ei berfformio.
















Ddydd Gwener cawsom orffwys ar ol yr holl waith called a chawsom wylio DVDs - Home Alone 4 a The Polar Express.

Yn y prynhawn daeth consuriwr i’r ysgol a gwneud sioe driciau i ni. Ar ol y sioe dysgodd i ni sut i berfformio ychydig o’r triciau. Tric cwpanau oedd un o’r rhai gorau a thric hances oedd un arall.

Cyn y sioe gwnaeth Adam sioe triciau cardiau a bandiau lastic a wedyn perfformiodd Lowri ac Elan sioe Cindarella. Roeddyn nhw’n dda hefyd

Harri ac Elizabeth

Friday, December 15, 2006

Panto, parti, bowlio 10, yr hen Sion Corn ac ymarfer at y gwasanaeth

Dydd Mawrth aethom i gyd i Bwllheli i weld y pantomeim. Roedd na lawer o gymeriadau lliwgar a diddorol yno ac roedd pawb yn chwerthin ac yn cael hwyl. Roedd yna hen ddyn, dyn drwg, Pwyll Pendefig Dyfed, ei gariad Rhiannon, lepricorn a llawer mwy. Yn y diwedd diwedd roedd pawb yn mynd ar y llwyfan i ddawnsio efo’r cymeriadau ac roedd Jac yn dawnsio efo’r hen ddyn.



Ar ol i’r panto orffen cawsom barti yn Glasfryn. Cawsom fwyd parti – bechdanau, crisps, bisgedi, jeli, hufen ia a diod oren a death Anti Eirian ac Anti Mandy i helpu ni rannu’r bwyd. Ar ol y parti cafodd pawb gyfle i fowlio deg. Gwnaeth Dafydd yn well na neb arall. Ar y diwedd daeth Sion Corn i lawr y llwybr wrth ochr y lonydd bowlio i roi anrhegion i ni. Wedyn aeth pawb adref yn hapus.





Ddydd Iau roeddem ni yn ymarfer y gwasanaeth trwy’r bore oherwydd oherwydd ein bod ni yn ei berfformio gyda’r nos. Mae o yn cael ei gynnal yng Nghapel Gosen. Mae Llwybr Bach wedi ail agor erbyn hyn, felly doedd ddim rhaid i ni fynd i Gapel Gosen trwy ardd Mr a Mrs Ellis ac roeddym yn medru mynd adref i lawr Llwybr Bach yn lle gorfod mynd dros wal!!.

Mae na llawer o bobl wedi dweud eu bod am ddod i’n gweld ni yn y gwasanaeth, ac mae pawb yn nerfus.

Wiliam a Stuart ac Elain

ON – bydd digon o luniau ac adroddiad ar y gwasanaeth ddechrau wythnos nesaf – gobeithio. CL

Friday, December 08, 2006

Wythnos wyntog ac ymarfer at y gwasanaeth

Trwy yr wythnos yma rydan ni wedi bod yn ymarfer ar gyfer y gwasanaeth ‘Dolig. Babwshca ydi thema ein gwasanaeth ni eleni, a bydd yn cael ei gynnal yng Nghapel Gosen ddydd Iau. Rydym ni i gyd wedi dod a dillad i’r ysgol ar gyfer y gwasanaeth

Mae’r ysgol wedi cael ei addurno ardduniadau ‘Dolig, ac roedd y plant mawr yn gwneud eu haddurniadau eu hunain y prynhawn yma.

Rydym yn arfer mynd adref i lawr Llwybr Bach, ond rwan rydym yn gorfod mynd dros wal oherwydd bod llechi wedi disgyn oddi ar to Capel Gosen, ac mae’r llwybr wedi cau.



Mae hi wedi bod yn wythnos ofnadwy o wyntog, ‘dydyn ni ddim wedi cael mynd allan am llawer o’r wythnos oherwydd ei bod yn berygl gyda cymaint o wynt.

Wiliam a Luke

Friday, December 01, 2006

Blogio pob dydd

Mae'r plant wedi bod yn blogio'n ddyddiol yr wythnos yma, ac mae eu blogiau wedi cael eu dangos ar wefan Ffeil.

Dyma rai o'r blogiau:

CL

Dydd Llun,

Mae hi’n reit wyntog heddiw ym mhob man. Oherwydd y gwynt nid ydym wedi cael mynd allan i chwarae o gwbl.

Dim ots, cafodd pawb gacennau blasus, yn lle y ffrwythau yr ydym yn eu cael pob bore, gan fam Guto. Roedd Guto yn cael ei benblwydd yn 6 oed ddoe.



Mae’r ysgol yn llawn o esgidiau hefyd – rydym yn hel hen esgidiau ar gyfer y rhaglen Blue Peter a daeth llawer iawn, iawn o esgidiau i’r ysgol heddiw.



Elain, Haydn a Lauren

Dydd Mawrth

Heddiw cawsom wasanaeth diddorol. Cawsom ein tystysgrifau sgiliau dwr am nofio’n dda yn y Ganolfan Hamdden.



Cawsom hefyd dystysgrif gan Ysbyty Alder Hay am hel pres iddynt. Roeddem ni wedi hel £200 iddynt mewn gwasanaethau y llynedd. Cawsom hefyd wybod ein rhannau yn y gwasanaeth Nadolig, Elain ydi Babwshca, teithiwr a phlentyn ydym ni.



Neithiwr roedd rhai ohonom ynn Ngwasanaeth Sul yr Urdd (ar nos Lun), oedd wedi ei drefnu gan Llinos Roberts a cawsom fferins ar y diwedd.



Dafydd a Jac


Dydd Mercher

Dydd Mercher olaf Mis Tachwedd ydi hi heddiw ac fe gawsom danjarins o’r siop ffrwythau. Roedd arogl da arnynt ac roeddynt yn gwneud i ni deimlo bod ‘Dolig yn agosau, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at ‘Dolig.

Pob Nadolig rydym yn ael parti yn yr ysgol,ond y tro hwn rydym yn cael un arbennig. Rydym yn cael mynd i Bwllheli i weld y pantomeim, ac wedyn ar y ffordd yn ol rydym yn stopio yn Glasfryn i gael ein parti ac ar ol bwyta rydym am gael bowlio deg. Os ydym ni’n blant da efallai y daw yr hen Sion Corn efo anrhegion i ni.

Nid y tanjarins ydi’r unig beth i’n hatgoffa bod ‘Dolig ar y ffordd. Mae’r gwasanaeth ‘Dolig mewn pethefnos, ac rydym wedi cael gwybod pwy ydi pwy ddoe. Babwshca ydi Elain, y Tri Gwr Doeth yw Lauren,Rhiannon a Molly ac mae llawer mwy o gymeriadau diddorol. Rydym yn dechrau ymarfer o ddifri heddiw.

Rhywbeth arall sydd yn gwneud i ni feddwl am y Nadolig ydi yr addurniadau Nadolig sydd i’w gweld yn ffenestri llawer o dai yn Nhrefor. Mae llawer o obl wedi addurno yn barod - pobl fel Dafydd a Rhiannon ac Anti Bet ac yn o fuan bydd pob man yn Nhrefor wedi ei oleuo. GOBEITHIO.



Ty mwyaf llachar Trefor - ty Anti Bet.

Elain a Lauren

Dydd Iau

Mae wedi bod yn wythnos wlyb a gwyntog, ac ni chawsom fynd allan yn ystod yr amser chwarae cyntaf. Ond roedd y tywydd yn ddigon da i ni fynd allan i redeg. ‘Rydan ni i gyd yn rhedeg 2km pob bore dydd Iau.

Daeth Valmai i’r ysgol y prynhawn yma. Valmai ydi mam Geraint, ac mae hi wedi bod yn paratoi gardd wyllt i ni yn yr ysgol. Cawsom liwio llun o bryf genwar a cawsom roi pridd a thywod a dail mewn bocs efo gwydr ar ei ochr, a llenwi’r twb efo pryfaid genwair. Rydw i a Luke yn gorfod rhoi dwr yn y bocs un waith pob dau ddiwrnod. Byddwn yn gallu astudio bywyd y pryfaid genwair yn ystod yr wythnosau nesaf.




Jac a Rhiannon

HEDDIW CAWSOM DDIWRNOD SGIDIAU GWIRION GWISGODD LOWRI SLIPARS GWYN FFLYFFI, GWISGODD ELLIE RHAI TEDI A SIONED A RHIANNON RHAI PINC.

GWISGODD ELAIN RHAI TRAED DREWI A GWISGODD YR HOGIAU RHAI WELINGTONS.

AETHOM I BWLLHELI I WNEUD YMARFER CORFF DOEDD MR LARSEN DDiM YNA HEDDIW I DDYSGU DAWNSIO (WEL TRIO GWNEUD HYNNY) FELLY MRS HARRIS OEDD YN EIN DYSGUAC ROEDD HI’N LLAWER GWELL AM DDAWNSIO NA MR LARSEN.

LOWRI AC ELLIE