Blog Ysgol yr Eifl

Friday, October 16, 2009

Chwaraeon a chelf

Dydd Llun cawsom wybod pwy sy’n gwneud beth yn y bore coffi. Roedd pawb efo rhyw ran neu’i gilydd yn y bore coffi.

Ddydd Mawrth cawsom ddweud y geiriau wrth Mr Larsen. Yn yr prynhawn roeddem ni yn gwneud gwaith trydan. Roeddem yn arbrofi efo goleuadau.

Ddydd Mercher daeth Mrs Harris i’r ysgol i ddysgu plant blwyddyn 3,4,5 a 6. Cawsom wneud gwaith celf am Andy Warhol.

Ddydd Iau daeth Mrs Harris i’r ysgol eto ac mi gawsom chwarae gemau ac rhedeg.

Heddiw aethom i’r Ganolfan Hamdden i chwarae gemau. A wedyn cawsom ganu efo Miss Griffiths.

Ifan a Rhys

Sunday, October 11, 2009

Blogiad arall gan Elan

Dydd Llun cafodd bl 3 a 4 wersi recorders hefo Miss Griffiths. Ddydd Mawrth cafodd bl 3 4 5 a 6 wersi cerddoriaith hefo Miss Griffiths. Aeth plant blwyddyn 6 i’r festri i helpu’r clwb gwau.

Ddydd Mercher roedd Mrs Harris yn ol yn dysgu plant dosbarth Miss Griffiths. Cafodd bl 3 4 5 a 6 wersi ymarfer corff a chwarae gemau awyr agored. Cawsom gwis hefyd am y geiriau rhyfedd mae pobl De Cymru yn eu defnyddio.

Roedd Mrs Harris efo plant bl 3,4,5 a 6 Ddydd Iau a Dydd Gwener. Cawsom fynd i’r ganolfan hamdden efo hi i wneud gwers addysg gorfforol.

Elan