Blog Ysgol yr Eifl

Saturday, December 19, 2009

Wythnos olaf y tymor











Wythnos yma oedd ein wythnos ddiwethaf yn yr ysgol am eleni.

Dydd Iau cawsom ni parti ysgol. Daeth yna gonsuriwr i’r ysgol a Sion Corn hefyd. Hefyd cawsom chwarae musical chairs. Roedd plant bl meithrin yn aros yn yr ysgol dan 03.30 yn lle mynd adref am 11:00 fel arfer.

Yn yr ysgol. ddydd Gwenner cawsom ddod a gemau i’r ysgol i chware. Ddydd Iau roedd yna fore coffi wedi ei drefnu gan Llinos. Cawsom fynd i’r bore coffi a holi’r pobl wedi tyfuam Nadolig ers talwm a siarad efo nhw am pob dim rydan ni wedi ei ddysgu am y ‘Dolig yn Oes Fictoria.

Elan

Friday, December 11, 2009

Wythnos y Cyngerdd Nadolig






Dydd Llun roedd yr ysgol yn ymarfer ein cyngerdd Nadolig am y tro cyntaf yn y Ganolfan yn Nhrefor. Ddydd Mawrth aethom i’r Ganolfan eto a chafodd y plant bach gyfle i wisgo eu dillad.

Ddydd Mercher cawsom berfformio’r cyngerdd Nadolig a pam roedd ni yn gwneud ein symudiadau roedd plant ysgol Glan y Mor yn ein copio ni. Ar ol yr cyngerdd Nadolig roedd Miriam a Kelly yn helpu ni addurno orennau.

Yn gyntaf roedd Miriam yn rhoi ruban o gwmpas yr oren. wedun roedd pawb yn cael 4 ffon bach i rhoi yn yr oren.. Wedyn roedd pawb yn rhoi grawnwin neu fferins ar y 4 ffon bach a wedyn roedd yn rhoi canwyll yn yr canol.

Ddydd Iau arhosodd y plant meithrin tan 1 or gloch am y tro cyntaf am ein bod yn cael cinio Nadolig. I ginio cawsom ginio Nadolig. Roedd pawb wrth eu bodd efo’r cinio. I bwdin cawsom hufen ia clown efo saws siocled.

Gwenno a Lowri