Blog Ysgol yr Eifl

Sunday, June 22, 2008

Cyfeiriannu yn Nantgwrtheyrn

Ddydd Mercher aethom i gyfeiriannu yn Nant Gwrtheyrn. Roedd yna dair ysgol arall yno efo ni, sef Crud y Werin, Nefyn ac Abererch. Er na wnaeth yr un ohonom ennill yn anffodus, gwnaeth llawer ohonom yn dda iawn.

Heddiw daeth Mrs Larsen i orffen y bagiau efo ni.



Jac a Wiliam

Monday, June 09, 2008

Mynd i Fae Colwyn a Rhostryfan

Dydd Llun aethom ar drip i Fae Colwyn i adeilad y cynulliad i ddysgu mwy am y Cynulliad. Wedyn ar y ffordd adref cawsom stopio yn ysgol Rhostryfan i gael gem o bel droed a rownderi. Enilliodd y tim pel droed cyntaf 2 ā€“ 0 gyda Rhostryfan yn sgorio yn erbyn eu hunain ddwywaith ac enilliodd yr ail dim 5 ā€“ 0. Enilliodd y tim rownderi 2 - 1.

Dydd Gwener mae adran yr Urdd yn mynd i Glan Llyn am dwy noson. Hefyd cawsom flodau iā€™w planu yn yr ardd gan nain Catrin.

Jac a Wiliam