Blog Ysgol yr Eifl

Friday, November 24, 2006

Tybed beth mae tylluan yn ei fwyta?

Ar fore dydd Iau buom yn rhedeg ein 2 km arferol. Roeddem plant blwyddyn 5 a 6 yn lwcus iawn i osgoi y cawodydd, ond doedd y plant eraill ddim mor lwcus a ni chawsant redeg.



Yn hwyrach yn y p’nawn bu Valmai, mam Geraint efo ni yn gwneud gwaith ar yr Ardd Wyllt. Edrych ar beth sydd mewn bol tylluan oeddem ni.. Roedd yna esgyrn llygoden – dau fath gwahanolo llygoden ac roedd yna esgyrn llyg yna hefyd. Roedd yna esgyrn gwahanol adar bach hefyd. Cawsom deimlo pwysau gwahanol adar hefyd. Roedd y rhan fwyaf yn ysgafn iawn, ond roedd y Creyr Glas yn drwm.



Esgyrn o fol y dylluan.



Falmai

Wiliam

Friday, November 17, 2006

Anfon y parseli tegannau ar wythnos wyntog

Mae wedi bod yn wythnos wlyb a gwyntog a dydym ni ddim wedi cael mynd ar y gwair i chwarae.

Mae y bocsus wedi Christmas Child wedi mynd i Gapel Maes Neuadd ar ol i mam Megan ddod i’w nol nhw, a byddan nhw yn eu hanfon i blant bach tlawd mewn gwledydd pell. Bocsus yn llawn o’n hen degannau ni ydyn nhw – ond mae’n dda gan blant bach tlawd eu cael nhw.


Roedd y pwll yn oer iawn ddydd Mercher a dydd Iau ac roeddem yn meddwl na fyddai neb yn medru nofio ddydd Gwener – ond roedd pob dim yn iawn erbyn heddiw.

Daeth Valmai efo ni ddydd Iau a son am y gors llawn drain yr ydym ni am ei throi yn ardd. Gardd wyllt ydi’r enw y byddwn yn ei roi arni.



Elin a Sera

Friday, November 10, 2006

Consuriwr a lampau Divali.

Dydd Llun cawsom gyfle i gynnau y lampau Divali rydym wedi bod yn eu gwneud efo Mrs Harris. Dyma luniau rhai ohonynt.



Dydd Mawrth daeth dyn atom i son am smygu. Roedd o hefyd yn gonsuriwr ac yn gallu gwneud pob math o driciau diddorol. Cawsom wybod pob math o bethau am smygu, er enghraifft beth sydd tu fewn i sigaret a llawer mwy o bethau afiach! Ach a fi! Rydym hefyd yn cael ymuno a chlwb bygiau baco ac mae’r rhan fwyaf ohonom wedi gwneud hynny.



Monday, November 06, 2006

'Sgwennu carolau a'r gwasanaeth Diolchgarwch

Ar ddydd Mercher, Hydref 18 daeth Llinos Roberts i roi gwasanaeth i ni am bobl di gartref. Y rheswm ei bod wedi gwneud hyn yw oherwydd ein bod am gymryd rhan mewn cystadleuaeth ysgrifennu carol sy’n cael ei drefnu gan Shelter Cymru a’r Urdd. Bydd y Prifardd Iwan Llwyd yn rhoi help i ni efo’r gwaith yma.




Dydd Llyn, Hydref 23, ac wedyn ar ddydd Mawrth daeth Iwan Llwyd i’r ysgol i ysgrifennu carolau Nadolig efo ni. Cafodd blwyddyn 3 a 4 gyfansoddi un carol, a chafodd bl 5 a 6 gyfansoddi un arall. Rydan ni yn meddwl eu bod nhw yn ofnadwy o dda. Beth ydych chi yn ei feddwl?


Iwan Llwyd

Nadolig Ddoe a Heddiw

Roedd hi’n dechrau t’wllu’n gynnar
a nosweithiau hir o’i blaen,
Y ddau yn oer ac ofnys
a dim un golau mlaen:

Cyt: Curo, curo ar y drws,
Dim un ateb eto,
Curo,curo ar y drws,
a gawn nhw lety heno?

Ond yng ngolau’r seren ddisglair
mae’ na un lle prin ar ol:
“fe gewch chi gysgu yn y stabal
Mae’ na breseb,gwellt a stol.”


Ac fe anwyd baban perffaith
rhyw dro drwy’r oriau hir,
ond fe glywodd yr hen Herod
bod brenin newydd yn y tir:

Rhaid cychwyn ar daith arall
i ddinas arall, bell
a gobeithio, yn fan honno
y cawn nhw fywyd gwell.

Curo,curo ar y drws,
Dim un ateb eto,
Curo, curo ar y drws,
a gawn nhw lety heno?

Dosbarth 5+6
Ysgol yr Eifl ac Iwan Llwyd

Chwilio am Lety

Roedd hi’n oer y ‘Dolig cynta
a’r ddau yn mynd trwy’r eira
i’r ddinas fawr:
Wedi teithio, wedi blino,
yn gobeithio cael lle heno
ar rhyw lawr:
Cnocio drysa’, canu clycha’
holi eto’n y ty drws nesa’
am wely a bwyd:
Ond does dim llety yma’n unman,
fe fydd rhaid cael gwely allan
ar y pafin llwyd:
Ond drwy’r nos daeth llais caredig
a’u gwadd i’w satabal clud
ac yno daeth baban newydd
i mewn i’r byd.
Ac i’r stabal daeth angylion
a doethion a’u anrhegion
gwerthfawr, drud,
a’r bugeiliaid ac oen i’r baban
sy yno wrth ei hunan
yn y crud:
Ond fe glywodd yr hen Herod
am hanes y rhyfeddod
yn y gwair:
A gyrru’i filwyr yn haid greulon,
“Ewch oddi yma” meddai’r angylion
wrth Joseff a Mair:
Felly dyna ddechrau ar daith eto
a’r seren ddisglair yn ei goleuo
gam wrth gam
ac mae’r baban bach yn ddiogel
yng ngofal tawel a dirgel
ei dad a’i fam.

Bl 3 a 4 Ysgol yr Eifl ac Iwan Llwyd


Brynhawn Llun a dydd Mawrth aethom i ymarfer y gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Bethania. Y rheswm bod y gwasanaeth ym Methania eleni yw am ei fod am gael ei gau ym mis Rhagfyr, ac mae’n debyg y bydd yn cael ei droi yn dy i rhywun.

Dydd Mercher daeth yn amser y gwasanaeth a cawsom berfformio o flaen y bobl. Er bod oeddem yn nerfys iawn, roedd pawb yn brolio ni!



Dydd Gwener aethom i Bwllheli fel arfer i nofio – ond y troi hwn cawsom wneud ein bathodynnau nofio - rhai 20m a 25m a rhai 50m rhai 100m a rhai 200m. Pasiodd Haydn y 200metr a rwan mae’n mynd am y 400m.

Haydn, Lauren ac Elain