Blog Ysgol yr Eifl

Saturday, January 29, 2011

Diwrnod Dwynwen a bore coffi






Dydd Mawrth roeddum yn dathlu Dydd Santes Dwynwen. I ddathlu cawsom ginio crand, chwarae Sion a Sian a chael siocled o’r ffownten siocled.


Ddydd Iau aeth plant blwyddyn 3,4,5 a

6 i Gapel Maes Neuadd i’r bore coffi. Roeddem yn rhoi cyflwyniadau am Moto Coch, hanes teithio a phlanedau sydd yn cysawd yr haul.

Hefyd ddydd Iau aeth plant blwyddyn 0,1 a 2 i weld Carys Ofalus yn Ysgol Glan y mor.


Ger a Steffan

Friday, January 14, 2011

Dechrau tymor newydd

Ddydd Mawrth aeth bl 1 2 3 4 5 6 i’r Pantomeim ym Mhenygroes. Ei enw oedd y teitl oedd Sundarddela. Roedd y pantomeim yn hwyr oherwydd bod eira cyn ‘Dolig.

Heddiw daeth Mark i wneud sioe Paid Cyffwrdd Dweud. Roedd ganddo fo pob math o driciau, gan gynnwys tric da efo cwningen. Roedd o yn ein dysgu ni am fod yn ofalus efo cyffuriau.

Mae blwyddyn 3, 4, 5, 6 yn gwneud dawns y Matador efo Mr Larsen y tymor yma. Bydd Moto Coch yn 100 oed y flwyddyn nesaf ac rydym ni wedi dechrau gwneud gwaith am hynny. Rydym hefyd wedi dechrau gwneud gwaith am y gofod.

Rydym yn gwneud gwaith ar wledydd y Byd efo Mrs Harris y tymor hwn. Hefyd mae Mrs Healy yn cael ei phenblwydd heddiw – ond ‘does yna neb yn dweud wrthym faint oed ydi hi yn anffodus.

Rhys ac Ifan