Blog Ysgol yr Eifl

Friday, October 26, 2007

Sioe Arall

Dydd Llun doedd Mr Larsen ddim yn ysgol ac roedd blant blwyddyn 5 a 6 efo Mrs Harris oedd hi yn union fel diwrnod cyffredin efo pawb yn gwneud eu gwaith.

Ddydd Mercher cynhaliodd rai o’r genethod sioe ac roedd pawb yn ei hoffi fo. Cawsom hwyl yn diwedd pan ddaeth yr hogiau i ddawnsio efo ni.

P’nawn dydd Iau roeddem ni efo Mrs Harris a cawsom wylio y teledu ac roeddem yn meddwl ein bod yn gweld Mr Larsen ar y teledu.



Elin a Non

Saturday, October 20, 2007

Diwedd y dawnsio

Dydd Mercher oedd diwrnod diwethaf Mr Diamond yn dysgu ni ddawnsio dawns o Brazil. Enw yr ddawns oedd Capero. Oedd na sioe ar ddiwedd y ddawns, ac roedd pawb yn dawnsio efo Mr Diamond.



Ddydd Gwener mae pobl yn dod yma i ddarllen efo plant. Mae Mrs Parry sydd yn darllen efo blwyddyn 3 a 4 ond dim ond yr wythnos yma oherwydd, mae hi wedi mynd ar ei gwyliau i Iwerddon. Braf iawn wir.

Wiliam a Jac

Tuesday, October 16, 2007

Taith i Bwllheli a theganau newydd

Roedd Dydd Mawrth yn ddiwrnod da, mi ddaeth Elan i’r ysgol tan amser mynd adra a cawsom dderchau chwarae efo’r teganau newydd.




Dydd Mercher aethom i Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli i weld perfformiad gan Ensemble Cymru. Stori Guto’r gwnigen oedd hi, ac roedd yn stori dda iawn hefyd. Yn y dechrau cawsom sioe fach i ddisgwl am bod y bws o’r ysgol arall yn hwyr. Cawsom lolipop yr un hefyd.



Lois a Leah

Saturday, October 13, 2007

Teganau newydd ac Elan yn dychwelyd

Dydd Mercher cyrhaeddodd y teganau newydd. Rhoddodd y siop ffrwythau £200 i’r ysgol brynu’r tegana, a cafodd plant y cyngor ysgol ddewis pa deganau yr oeddym yn eu cael . Roedd yna un bag i blant blwyddyn 1,2 a bag arall i blant blwyddyn 3,4,5,a 6. Mae’r teganau yn edrych yn rhai diddorol iawn, ac rydym yn siwr o gael hwyl efo nhw.





Dydd Llun daeth Elan yn ol i’r ysgol ar ol bod yn Lerpwl yn cael triniaeth ar ei chalon. Roedd yn dda iawn gan bawb ei chael yn ol efo ni.



Rhiannon a Wiliam

Lluniau a blog yr wythnos yma i ddilyn. CL

Thursday, October 04, 2007

Sioned a dad yn mynd i lan y mor

O bryd i'w gilydd bwriadaf ganiatau i'r plant flogio os ydynt wedi gwneud rhywbeth diddorol. Yma mae Sioned yn son am daith i lan y mor gyda'i thad.
Yr wythnos diwethaf es i a dad i West End ac roedd yn rhaid cerdded yr holl fordd i pendraw West End a dyma ni yn gweld morlo oedd wedi cael ei hun yn sownd.

Cefais afael mewn cranc yn fy nwylo ac roedd o yn fach iawn ac yn ciwt. Nid y fi ffeidiodd y cranc ond ffrind dad. Gwyrdd a melyn oedd ei liw.



Aethom i West End oherwydd bod dad eisiau mynd am dro bach ac roedd o fel diwrnod allan i dad a fi. Aethom yna i weld beth oedd wedi ei olchi i fyny ac yn sychu ar y lan. Gwelsom lawer o bethau diddorol wedi sychu ar hyd y traeth.



Geifr ydi’r rhain ac roedd yna bump ohonyn nhw ac roedd yna un bron iawn a disgyn. Roedd yna un wedi disgyn o’r blaen oherwydd bod yna esgyrn yno – fel mae’r lluniau yma’n dangos.

Hwn yw pen draw West End ac aeth dad yna, arhosais wrth y cerrig a gwelais bysgodyn wedi marw yng nghanol y cerrig, ond wnes i ddim tynnu llun.



Ci mor ydi hwn ac roedd o yn sownd yn y gwymon ac roedd rhaid i dad ei lusgo fo allan. Wedyn fe wnes i lun calon yn y tywod oedd yn dweud ‘I love daddy’.



Llun ydi hwn o Osian ac fi yn mynd i neidio oddi ar y grisiau.



Llun arall yw Sgamp a fi yn rhedeg wrth lan y mor.