Sioned a dad yn mynd i lan y mor
O bryd i'w gilydd bwriadaf ganiatau i'r plant flogio os ydynt wedi gwneud rhywbeth diddorol. Yma mae Sioned yn son am daith i lan y mor gyda'i thad.
Yr wythnos diwethaf es i a dad i West End ac roedd yn rhaid cerdded yr holl fordd i pendraw West End a dyma ni yn gweld morlo oedd wedi cael ei hun yn sownd.
Cefais afael mewn cranc yn fy nwylo ac roedd o yn fach iawn ac yn ciwt. Nid y fi ffeidiodd y cranc ond ffrind dad. Gwyrdd a melyn oedd ei liw.
Aethom i West End oherwydd bod dad eisiau mynd am dro bach ac roedd o fel diwrnod allan i dad a fi. Aethom yna i weld beth oedd wedi ei olchi i fyny ac yn sychu ar y lan. Gwelsom lawer o bethau diddorol wedi sychu ar hyd y traeth.
Geifr ydi’r rhain ac roedd yna bump ohonyn nhw ac roedd yna un bron iawn a disgyn. Roedd yna un wedi disgyn o’r blaen oherwydd bod yna esgyrn yno – fel mae’r lluniau yma’n dangos.
Hwn yw pen draw West End ac aeth dad yna, arhosais wrth y cerrig a gwelais bysgodyn wedi marw yng nghanol y cerrig, ond wnes i ddim tynnu llun.
Ci mor ydi hwn ac roedd o yn sownd yn y gwymon ac roedd rhaid i dad ei lusgo fo allan. Wedyn fe wnes i lun calon yn y tywod oedd yn dweud ‘I love daddy’.
Llun ydi hwn o Osian ac fi yn mynd i neidio oddi ar y grisiau.
Llun arall yw Sgamp a fi yn rhedeg wrth lan y mor.
0 Comments:
Post a Comment
<< Home