Blog Ysgol yr Eifl

Friday, September 07, 2007

Wythnos gyntaf yn ol ac ymweliad anisgwyl

Hon oedd ein hwythnos gyntaf yn yr ysgol ac roedd saith o blant bach newydd yn cychwyn, sef Cian, Jamie, Caron, Liam, Mared, Mari a Delwyn yn newydd yn y ysgol. Roedd un hogyn blwyddyn 5 yn cychwyn yma hefyd, sef Wil.












Hefyd daeth Sioned o’r coleg i helpu plant bach ac mae pob dim wedi newid – fel pwy sy’n gyfrifol am y ffrwythau a’r llefrith a phob math o bethau eraill.



Cawsom ymweliad anisgwyl gan Sioned o Rownd a Rownd a ddaeth efo Guto i’r ysgol yn y bore – ac roedd ciw mawr o blant wedi hel o’i chwmpas i gael ei llofnod.

Roedd hi'n wythnos dda i Elizabeth - enilliodd y gystadleuaeth Clychau'r Gog - a chafodd nifer o wobrau.







Elin a Sioned

0 Comments:

Post a Comment

<< Home