Blog Ysgol yr Eifl

Friday, September 21, 2007

Dawnsio a gweld Elan unwaith eto

Ddydd Mercher daeth Mr Diamond i’r ysgol ac dysgu ni i ddawnsio fel mae pobl yn gwneud yn Brasil - ac roedd o yn hwyl. Roedd yn gwneud pob math o driciau difyr.






Ddydd Iau roeddem yn rhedeg yn y bore a daeth Elan efo'i mam i'n gweld tra'r oeddem wrthi.Cafodd sgwrs a ffrwythau efo ni. Roedd Elan yn edrych yn dda iawn.



Mae ychydig o'r genod yn ymarfer sgipio a hwla hwps trwy'r wythnos hefyd.

Gan Leah a Non

2 Comments:

At 9:05 AM, Anonymous Anonymous said...

Helo,
Ceri ydi fyn enw i. Mi roedd Elan yn yr ysbty yn Alder Hey yr un pryd a fy mab Jac oedd hefyd yn cael llawdriniaeth ar ei galon. Rydw i wedi bod yn gwylio eich blog yn amal i weld os oedd yna unrhyw hanes am Elan ac dwi'n falch iawn cael gweld bod hi yn edrych llawer gwell. Da iawn ti Elan. Mi hoffwn i hefyd cael cofio at ei mam ai thad a gobeithio ei bod hi'n gwella yn dda.
Hwyl
Ceri

 
At 4:38 AM, Blogger Ysgol yr Eifl said...

Diolch am y neges.

Gobeithio bod Jac yntau yn well.

 

Post a Comment

<< Home