Blog Ysgol yr Eifl

Saturday, October 13, 2007

Teganau newydd ac Elan yn dychwelyd

Dydd Mercher cyrhaeddodd y teganau newydd. Rhoddodd y siop ffrwythau £200 i’r ysgol brynu’r tegana, a cafodd plant y cyngor ysgol ddewis pa deganau yr oeddym yn eu cael . Roedd yna un bag i blant blwyddyn 1,2 a bag arall i blant blwyddyn 3,4,5,a 6. Mae’r teganau yn edrych yn rhai diddorol iawn, ac rydym yn siwr o gael hwyl efo nhw.





Dydd Llun daeth Elan yn ol i’r ysgol ar ol bod yn Lerpwl yn cael triniaeth ar ei chalon. Roedd yn dda iawn gan bawb ei chael yn ol efo ni.



Rhiannon a Wiliam

Lluniau a blog yr wythnos yma i ddilyn. CL

0 Comments:

Post a Comment

<< Home