Blog Ysgol yr Eifl

Monday, October 23, 2006

Cronfa Alder Hay

Roedd yr ysgol yn casglu arian at Ysbyty Alder Hay yn ystod y flwyddyn ysgol 2005 - 2006. Llwyddwyd i godi cyfanswm o £197.85.

Diolch o galon i bawb a gyfranodd.

CL

Thursday, October 12, 2006

P'nawn Divali, Cymdeithas y Pridd a phlant yn mynd i Ganada

Dydd Llun daeth Delyth Phillips o Gymdeithas y Pridd i’n dysgu ni am fwydydd iach ac am sut i drin y tir yn dda trwy’r bore.

Yn y prynhawn cawsom brynhawn Diwali efo Mrs Harris. Cawsom gyri i ginio, fel meant yn ei gael yn India. Wedyn cawsom wneud fferins Diwali a gwneud llestri dan canhwyllau a hefyd gwneud lluniau o ddathliadau Divali. Cawsom ddigon o hwyl a chawsom ddysgu pethau diddorol hefyd.









Ddydd Iau roedd hogyn bach o’r enw Calum a hogan llai hyd yn oed o’r enw Cloe yn ein gadael am Canada. Cawsom gyfarfod i ffarwelio efo nhw a cawsant anrheg cerdyn a oedd wedi ei arwyddo gan bawb.



Wiliam a Luke

Friday, October 06, 2006

Ymweliad gan Techniquest ac actio

Ar ddydd Llun daeth dyn yma o Techniquest i roi sioe wyddoniaeth i ni. Roedd hi’n sioe ddiddorol. Efallai y cawn fynd i Techniquest Llanberis i weld sioe arall.

Cawsom fynd i’r Ganolfan Hamdden fel arfer heddiw, ac yn y p’nawn cawsom wneud dramau bach ein hunain. Roedd rhaid i fi (Sioned) action dynas ofnadwy o posh.mewn ty bwyta, roedd Adam yn smalio bod yn wr i fi, a Non oedd yn gweithio yn y caffi. Roedd y bwyd i gyd yn ofnadwy yno. Cawsom hwyl.



Actio

Sioned, Adam a Nonn