Blog Ysgol yr Eifl

Friday, May 18, 2007

Mynd am dro i Lanaelhaearn

Dydd Llun aethom i Lanaelhearn i weld drama efo plant Ysgol Llanaelhaearn am y crwban cefn lledr, sef y crwban mwyaf y byd. Roedd y ddrama yn ardderchog ac roedd pawb wedi mwynhau y trip.

Dydd Iau chwaraeodd y genod rownderi hefo Mrs Harris a chwareodd yr hogia pel droed hefo Mr Larsen. Rydym yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth y cylch.



Ddydd Gwener rydan wedi bod yn ceisio dod yn nes at ddarllen miliwn o eiriau. Rydan ni wedi cyrraedd 211,531 gair yn barod.

Ellie, Lowri ac Elin

Sunday, May 13, 2007

Dymuniadau da i Elan a hwyl efo clychau'r gog

Ar ddydd Mawrth gwnaeth Elain a Lauren daflenni ar gyfer y siop ffrwythau. Mae siop ffrwythau yn yr ysgol ac mae pawb bron yn cael ffrwyth pob dydd.

Wedi hynny gwnaethom gerdyn i Elan oherwydd mae hi yn Alder Hay yn Lerpwl yn cael llawdriniaeth. Ysgrifenodd Elain a Lauren hyn ar y cardyn.

Annwyl Elan

Rydym ni gyd yma yn yr ysgol yn meddwl amdanat. Gobeithio byddi’n yma’n ol yn o fuan. Mae hi wedi bod yn arbennig o braf yma yn Trefor. Rydym wedi cael aros allan am fwy o amser nag arfer hefyd gan ei bod hi mor braf.

Mae pawb wedi colli dy weld amser chwarae yn dawsio ac yn neidio ac yn gwaeddi dros y lle. Mae hi mor ddistaw yma hebddot ac mae hi yn ddiflas yma hefyd.

Cariad mawr
Gan pawb yn Ysgol yr Eifl.
xxx


Dydd Mercher daeth Bryn Griffiths a Valmai (mam Geraint) i’r ysgol i son am glychau’r gog, ac aethom o gwmpas yr ardd wyllt i edrych arnynt ac i ddysgu amdanynt.

Rydym am fod yn cystadlu yn erbyn ysgolion eraill – sef Glancegin a Borth y Gest mewn cystadleuaeth ‘sgwennu cerdd clychau’r gog, a gwneud poster. Dyma i chi rhai o’r pethau diddorol yr ydym wedi eu dysgu am glychau’r gog:

Mae yna ddau fath o glychau’r gog rhai Sbaeneg a rhai cymreig.
Mae gan y clychau’r gog Sbaeneg goesyn syth.
Mae arogl y rhai Cymreig yn gryfach na’r rhai Sbaeneg.
Mae bwlb y clychau gog yn fwyd i foch ddear.
Mae y blodyn yn rhoi neithder i bryfed.
AC LLAWER MWY……


Gan Elain a Lauren

ON - 'Dwi'n siwr bod pawb yn meddwl am Elan fach, ac yn gobeithio y bydd adref o'r ysbyty yn ol yn yr ysgol cyn gynted a phosibl.

Hefyd cwdwyd £504.30 ar gyfer y Gymdeithas Rhieni o ganlyniad i'r ymarferiad sillafu noddedig, a chodwyd £85 arall trwy gynnal raffl. Diolch o galon i bawb.

CL



Tuesday, May 01, 2007

Gwobr gan Shelter Cymru

Dydd Mercher daeth dynas o Shelter Cymru a gwobr i blant blwyddyn 5 a 6 oherwydd ein bod wedi cyfansoddi carol efo Iwan Llwyd ac wedi ennill cystadleuaeth oedd wedi ei drefnu Shelter Cymru a’r Urdd. Cawsom gopi o’r garol wedi ei fframio a bwrdd efo llofnodion pob math o bobl enwog arno.



Mae wedi bod yn braf y tros y diwrnodiau diwethaf, a dydd Gwener cawsom chwarae rowndars efo Mrs Harris. Cafodd Dafydd, Jac, Haydn, Wiliam - yr hogiau i gyd bron rowndar