Blog Ysgol yr Eifl

Friday, November 30, 2007

Diwrnod yn y Felinheli

O bryd i'w gilydd bydd y plant yn blogio am rhywbeth sydd wedi digwydd yn eu hamser eu hunain. Isod mae Elin a Sera yn 'sgwennu am drip yn y car i Felinheli (ac a barnu oddi wrth y lluniau i Ddinas Dinlle efallai ar y ffordd).

Roedd yna llond car o blant efo tad Elin yn dreifio ac roedd mam Elin yn y set yn ymyl y dreifar ac roedd Geraint a Guto yn y cefn ac Elin a Sera yn y bwt

Dyma ni i gyd yn cychwyn am y Felinheli, ac ar ol cyrraedd rhoddodd pawb ei sibwts, a dyma Sera yn tynnu jaced a rhoi ei chot. Dyma ni i gyd yn cychwyn am y traeth ond roedd Sera mor oer fel bod dad gorfod mynd a Sera i’r car i nol ei chot.

Roedd y lan y mor yn oer iawn a dyma Guto yn neidio i bwll dwr ac roedd o yn socian. Roeddem ni yn mwynhau yr awyr iach a’r olygfa onddyma hi yn dechra bwrw yn ofnadwy. Neidiodd pawb dros y ffens a mynd o dan do. Roedd Guto a Geraint y canu dros y lle i gyd. Wedi iddi hi stopio bwrw aethom i chwilio am y car.

Ar ol dipyn cawsom ni hoe bach. Roedd mam Elin di bod yn tynnu llwyth o luniau pan oedd Elin a Sera yn gorwedd ar y llawr ac roedd Gerain a Guto yn chwarae cwffio. Roedd mam a dad elin yn gorffwys am funud bach.

Wedi cyrraedd adref ffoniodd Glyn a Dewi i ddweud bod eu car yn sownd yn y tywod. Aeth Elin a dad yna i helpu. Clymodd dad raff i’n car ni a char Glyn a cychwyn y Dyma y rhaff yn malu, ond yn lwcus yn diwdd roedden a nhw yn iawn











Elin a Sera

Catherine Aran a thaith i Glynnog

Rydan wedi bod yn ymarfer ar gyfer ein gwasaneth Nadolig yn galed. Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys San Sior ar nos Fercher, Rhagfyr 12. Mae rhai plant wedi goro aros i mewn amser chwarae i ymarfer y caneuon Nadolig. Mae hi wedi bod yn wythnos lawog.

Yr wythnos diwethaf daeth Catherine Aran i ddangos i ni sut i ‘sgwennu stori dda, ac mi gawsom gyfle i ‘sgwennu stori wedyn.



Hefyd wythnos diwethaf aeth plant blynyddoedd 3,4 a 5 i Ganolfan Uwch Gwyrfai yng Nghlynnog ac i Rosgadfan ar ymweliad. Dyma adroddiad gan Non a Leah.

Dydd Iau aeth blwyddyn 3,4 a 5 i Glynnog yn y bore i ddysgu am dan byd nature. Roedd Twm Elias yn dweud ychydig o jocs ac hefyd roedd o yn canu ychydig o ganeuon. Dangosodd lunia. Wedi dangos y lluniau aethom efo pardnar allan i’r ardd wyllt i chwilio am flodau. Wedi hynny cawsom liwio a gwneud llunia. Am tua 12:00 cawsom ginio yng Nghlynnog.

Wedyn aethom ar y bws i Rosgadfan i dy Kate Roberts. Cawsom glipfwrdd a phensal ac aethom i’r ty. Roedd yna spicyrs yn gwneud synau bob ryw ychydig. Wedyn aethom i fyny rhyw fryn a clywsom chwedl. Roedd y chwedl yn un da ac erbyn y diwedd roedden ni bron iawn a hedfan i Ynys Manaw. Roeddem ni wedi lapio Leah rownd hefo sgarff. Wedyn ar ol cael y chwedl dyma ni yn mynd adref i Drefor ar y bws.






Sioned ac Elin

Friday, November 16, 2007

Wythnos ddigon distaw

Dydd Iau; pan ddaeth Dylan i’r ysgol i ddysgu Rhiannon, Elin, Lowri W, Lowri O ac Adam sut i ganu corn roedd hi’n ddiwrnod rhyfedd braidd am nad doedd Mrs Harris na Miss Griffiths ddim yma, roeddynt wedi mynd i rhywle ar gwrs. Ar ol cael y wers cawsom redeg a gwneud 20 cylch.

Dydd Gwener: Rydan ni yn mynd i’r Ganolfan Hamdden ar ol cinio. Roedd dosbarth Miss Griffith a Mrs Harris yn gwnued gymnasteg fel ni. Rydan ni dal i darllen miliwn o eiriau. Rydan ni yn dal i wneud miliwn o eiriau a dydyn ni ddim yn bell iawn o fod wedi darllen 4 miliwn gair erbyn hyn.

Yn anffodus dydan ni ddim yn cael mynd a teganau allan oherwydd bod plant ddim yn eu cadw nhw.

Elin a Molly

Blog arbennig gan Elin i ddod wythnos nesaf.

CL

Friday, November 09, 2007

Tri ymweliad mewn un diwrnod

Dydd Llun oedd diwrnod cyntaf ein Clwb Brecwast newydd. Mae tua 20 ohonom yn dod i'r ysgol yn fuan ac yn cael brecwast efo Anti Sian, mam Rhiannon a Dafydd ac Anti Sian, mam sion Rhys. Anti Mandy, mam Adam fydd yn gwneud y bwyd i ni. Rydym wedi cael hwyl yn yr wythnos gyntaf beth bynnag.





Ddydd Mercher daeth Mr Geraint Jones, sef taid Elin yn yr p’nawn i son am Bantagonia. Bu Mr Jones ar wyliau yno ers talwm. Wedyn daeth y fan llyfrgell a chawsom fenthyg llyfrau.

Ar ddydd Iau dyma dynas yn dod i son wrthym ni am y Cynulliad Cenedlaethol. Cawsom wybod am y pleidiau i gyd, gweld lluniau a chynnal ffug etholiad. Dyma lun o Mrs Williams o'r Cynulliad.



Dechreuodd y bocsys Dolig ddod i fewn. Bydd Capel Maesneuadd yn gofyn i ni hel bocsys yn llawn o anrhegion pob blwyddyn ar gyfer plant bach mewn gwledydd pell sydd heb ddim byd o gwbl.



Elizabeth ac Ellie