Blog Ysgol yr Eifl

Thursday, November 29, 2012

Llythyr olaf Tymor yr Hydref

29/11/12


Annwyl Rieni

Nodwch y canlynol os gwelwch yn dda:
(1) Yn anffodus mae Ysgol Glan y Mor wedi dweud wrthym nad yw’r Sioe Nadolig yno yn addas ar gyfer plant bl 3 a 4. O ganlyniad plant bl 5 a 6 yn unig fydd yn mynd. Os ydych eisoes wedi talu, byddwch yn cael eich arian yn ol maes o law.

(2) Cofiwch mai ar ddydd Llun, neu ar ddydd Gwener yr ydym yn derbyn arian cinio ac ati. Ceisiwch sicrhau eich bod yn anfon amlenni pres ar y dyddiau hynny os gwelwch yn dda.

(3) Diolch i’r sawl yn eich plith sydd wedi dychwelyd y bonion sy’n dynodi parodrwydd i rannu taflenni sy’n rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynllun loteri a’r papur i gofnodi reseits. Byddwn yn symud ymlaen efo hynny a’r cynllun dysgu rhigymau noddedig yn fuan yn y flwyddyn newydd.

(4) Fel y gwyddoch mae’r ysgol yn dilyn cynllun ysgol werdd. O ganlyniad rydym yn gofyn i blant beidio a dod a chardiau Nadolig unigol i blant eraill i’r ysgol, ond yn hytrach i ddod ag un cardyn ar gyfer pawb yn yr ysgol.

(5) Os nad ydych wedi anfon arian tuag at y sioeau ac ymweliadau Nadolig, byddwn ddiolchgar petaech yn gwneud hynny cyn gynted a phosibl.

(6) Mae yna grys chwys ar goll – un maint 28” gydag enw ar y label. Wnewch chi edrych yn nillad eich plant os gwelwch yn dda?

Yn gywir

Cai Larsen







29/11/12

Dear Parents

Please note the following:

(1) Unfortunately Ysgol Glan y Mor has informed us that their show isn’t suitable for year 3 & 4 children, as a result only year 5 & 6 children will be going. If you’ve already paid for the show, but your child won’t be going, you’ll be refunded shortly.

(2) Please note that we receive dinner money etc on Fridays & Wednesdays. Please ensure that you send money on those days.

(3) Thanks to those among you who returned the forms indicating a willingness to help with distributing material advertising the lottery scheme & the receipt forms.. We’ll be moving on with that & the sponsored poem learning event & early in the new year.

(4) As you know the school is part of a green schools scheme. Because of that we ask the children not to bring individual cards to school, but to bring a single card for everybody.

(5) If you haven’t sent money towards Christmas visits & shows, please do that as soon as possible.

(6) We have a missing sweat shirt. The size is 28” & there’s a name clearly written inside. Could you please check your child’s clothing?

Yours sincerely

Cai Larsen





Tuesday, November 13, 2012

Cymdeithas Rhieni

Cymdeithas Rhieni Ysgol yr Eifl


Cyfarfod 8/11/12

• Penderfynwyd darparu arian ar gyfer prynu teledu, sgrin, cwt i gadw offer Cyfnod Sylfaen a welingtons i’r plant lleiaf os na ellir cael rhai gan elusen.



• Penderfynwyd hefyd geisio mynd ati i godi arian trwy gynhyrchu llyfr reseitiau, cynnal gweithgaredd dysgu rhigymau noddedig a cheisio hybu’r cynllun loteri.

Byddwn yn ceisio rhoi hwb i’r cynllun loteri trwy lythyru efo trigolion y pentref, rhoi posteri i fyny. Os nad ydych yn cymryd rhan yn y cynllun, ond eisiau gwneud hynny, yna gadewch i mi wybod. Cost cymryd rhan ydi £1 yr wythnos, ac mae posibilrwydd o ennill gwobr ariannol pob wythnos. Os ydych mewn sefyllfa i fod yn gyfrifol am roi llythyrau trwy dwll llythyrau stryd neu ddwy, gadewch i mi wybod hynny trwy gwblhau’r bonyn.

Amgaeaf bapur i chi nodi reseit arno. Mae croeso i chi ofyn am un arall os ydych eisiau cynnwys reseit gan deulu neu gyfeillion.


Parents Association Ysgol yr Eifl

• It was decided to provide money for the following – a television, a screen, a hut to store equipment for the foundation phase & wellingtons for the smallest children if we can’t get some from a charity.



• It was also decided to try to raise money by producing a recipe book, arranging a sponsored poetry learning competition, and by trying to reinvigorate the lottery scheme.



We’ll be trying to reinvigorate the lottery by writing letters to the residents of the village & displaying posters. If you don’t currently participate in the plan, but would like to do so, please let me know. The cost of participating is £1 per week, & there is a possibility of winning a prize every week. If you’re able to be responsible for arranging for letters to be put through letter boxes in a couple of streets, please complete the base of this correspondence.

I enclose a paper for you to jot down your recipe. If you’d like to send recipes by friends or relations, please ask for another form.

Gweithgareddau Nadolig

12/11/12




Annwyl Rieni

Amgaeaf y canlynol:


(1) Grid sy’n dynodi gweithgareddau weddill y tymor.


(2) Gwybodaeth ynglyn a’r Gymdeithas Rhieni


Mae yna hefyd nifer o fonion ynghlwm a’r nodyn hwn. Nodwch os gwelwch yn dda bod dau ohonynt ond yn berthnasol i rieni plant y flwyddyn meithrin. Dylid eu dychwelyd i’r ysgol erbyn diwedd yr wythnos.


Yn gywir


Cai Larsen



Dear Parents

I attach the following:


(1) A grid that denotes activities for the rest of the term.


(2) Information about the Parent’s Association.


There are also a number forms attached. Please note that two of them are relevant to the parents of the nursery children & two are relevant to everybody. They should be returned to school by he end of the week.


Yours sincerely


Cai Larsen

Grid Gweithgareddau Tachwedd a Rhagfyr Ysgol yr Eifl




Gweithgaredd Dyddiad Perthnasol i bwy? Manylion pellach

Gweld sioe Cyw yn ysgol Syr Hugh Owen. 28/11/12 Plant, meithrin Derbyn,bl 1 a 2 Gofynir am gyfraniad o £2.50 tuag at y bws a’r perfformiad. Ni fydd ysgol i’r plant meithrin yn y bore, ond mae croeso iddynt ddod i’r sioe. Os ydynt yn dod, dylid dod i’r ysgol erbyn 12.00.

Chwilio am Sion Corn yng Nghoedwig Glasfryn.

4/12/12 Plant bl Derbyn,1 a 2 Dylid dod a chot ac esgidiau addas. Gofynir am £2.50 o gyfraniad tuag at y bws a chost y weithgaredd.

Gweld sioe yn Ysgol Glan y Mor. 4/12/12 Plant bl 3,4,5 a 6 Gofynir am £1 o gyfraniad tuag at y bws.

Gweithgareddau Nadolig yn Amgueddfa Lechi Llanberis. 6/12/12 Plant bl 3,4,5 a 6 Dylid dod a chot ac esgidiau addas. Gofynir am £1 o gyfraniad tuag at y bws. Dylid dod a bocs bwyd.

Sioe Nadolig gan y plant. 17/12/12 Pawb Bydd y sioe yn cael ei chynnal yn y Ganolfan am 6.30 o’r gloch.

Parti Nadolig ac ymweliad gan Sion Corn. 18/12/12 Pawb Bydd y plant yn cael parti yn lle cinio, felly dylid anfon £1.95 os nad ydi’ch plant yn cael cinio am ddim. Mae croeso i’r plant meithrin aros tan 3.

Cinio Nadolig 19/12/12 Pawb Mae croeso i’r plant meithrin gael cinio Nadolig ac aros yn yr ysgol tan 1 o’r gloch. Cost cinio ydi £1.95 os nad oes gennych hawl i gael cinio am ddim.


Activity Grid November & December Ysgol yr Eifl


Event Date Relevant to who? Details

Attending a show in Ysgol Syr Hugh Owen. 28/11/12 Nursery, Reception,Yr 1 & 2 children We ask for a contribution of £2.50 towards the bus & cost of the activity. There won’t be school for the nursery children in the morning, but they may come to the show. If you choose to do so, please bring your child to school by 12:00.

Looking for Santa in Glasfryn Woods. 4/12/12 Reception, yr 1 & yr 2 children. A coat & suitable shoes should be brought along. We ask for a contribution of £2.50 towards the bus & cost of the activity.

Attending a show in Ysgol Glan y Mor. 4/12/12 Yr 3,4,5 & 6 children We ask for a £1 contribution towards the bus.

Christmas activities in the Slate Museum in Llanberis. 6/12/12 Yr 3,4,5 & 6 children A coat & suitable clothing should be brought along. We ask for a £1 contribution towards the bus. A lunch box should be brought.

A Christmas Show performed by the children. 17/12/12 Everybody The show will be held at Y Ganolfan at 6.30.

Christmas Party & a visit by Santa. 18/12/12 Everybody The children will have a party instead of dinner, so £1.95 should be paid, unless your child is entitled to free school lunch. The nursery children are welcome.

Christmas Dinner 19/12/12 Everybody The nursery children are welcome to stay for dinner & stay until 1 o’clock. Dinner costs £1.95.