Blog Ysgol yr Eifl

Friday, June 29, 2007

Y glaw'n difetha pethau

Dydd Llun roedd plant blwyddyn 3,4,5,6 i fod i fynd am dro i ben yr Wyddfa. Ond cafodd pawb ei siomi am hi yn rhy wyntog ac yn bwrw glaw. Roedd pawb yn drist ofnadwy.

Ddydd Mercher aethom i Ysgol Cymerau i chwarae rowndars a pheldroed.

Collodd y genod ddwy cael un gem gyfartal ac ennill y gem yn erbyn Cymerau am y tro cyntaf erioed. Tarrodd Molly y bel yn bell a chael rowndar. Yn y peldroed enilliodd yr hogiau mawr un gem, cael dwy gem gyfartal a cholli un gem. Sgoriodd Jac a Chris un gol yr un. Roedd hi yn bwrw glaw yn sobor iawn ar adegau ac roeddem ni yn gorfod mynd adref oherwydd ei bod yn bwrw gormod.






Ddydd Gwener aethom i nofio i Bwllheli. Roeddem yn dysgu sut i wneud scylio. Roedd o yn hwyl a chawsom ymarfer ar y cefn ac roedd pawb yn ei wneud o yn dda.

Rydym ni wedi darllen dros ddwy filiwn a hanner o eiriau fel rhan o’r cynllun darllen miliwn o eiriau.

Roedd newyddion da arall hefyd - daeth a pili palas yn nosbarth Miss Griffith allan o'u piwpa - er bod pawb yn meddwl eu bod nhw wedi marw.



Ar Ddydd Iau daeth PC Meurig Williams i'r ysgol i ddweud wrthym mor bwysig ydi hi peidio siarad efo pobl ddieithr.



Roedd Lois Harris yn gwneud profiad gwaith yma am wythnos, ac roedd Awen o Goleg Meirion Dwyfor.

Elain a Sioned

Saturday, June 16, 2007

Ymweld a Phlas Tan y Bwlch a chystadleuaeth rownderi

Ar Llun a Mawrth cawsom gystadleuaeth rownderi ac roedd werth gweld wyneb Stuart, capten Ceiri pan gafodd y gwpan ar brynhawn dydd Mawrth. Elyrnion oedd yn ail, Hendre oedd yn drydydd a’r Eifl oedd yn olaf.



Ar ddydd Mercher aethom i Blas Tan y Bwlch i ffair bioamrywiaeth. Roedd ysgolion eraill yna hefyd, sef Ysgol Llanaelhaearn, Ysgol Rhydyclafdy, Ysgol Waenfawr ac Ysgol y Garreg. Ar ol i bawb gyrraedd cawsom sioe wyddoniaeth gan ddyn o’r enw Ian. Dangosodd i ni sut i wneud pob math o bethau - fel ffrwydro cwstad.








Hefyd cawsom enwi dail a mynd allan i ddal trychfilod sy’n byw mewn coed sydd wedi marw. Daliodd Chris genna goeg a neidr fach, dennau. Wedyn cawsom ein cinio ar y balcony

Wedyn cawsom wneud gwaith am fywyd y mor, ac am y goedwig. Cawsom weld pob math o bethau diddorol sy’n byw yn y mor. Ar ddiwedd y prynhawn aethom i’r labordy lle’r oedd pob math o anifeiliaid a phlanhigion i edrych arnynt a’u hastydio.

Mae heddiw yn ddiwrnod arbennig o bwysig am ein bod ni wedi cyrraedd miliwn o eiriau yn y Cynllun Miliwn o Eiriau - a dydan ni ond wedi bod wrthi ers dau fis a hanner.

Sioned ac Elizabeth.

Friday, June 08, 2007

Elan yn gwella a'r plant bach yn mynd i Glynllifon

Ddydd Llun daeth pawb yn ol i’r ysgol yn ddiogel ar ol y gwyliau hanner tymor braf. Yn yr prynhawn ysgrifennodd pawb lythyrau i Elan. Roedd pawb wedi ysgrifennu joc yn eu cardyn iddi.

Ddydd Mercher aeth plant dosbarth y babanod am dro i Glynllifon. Roedd pawb wedi mwynhau yr ymweliad yn fawr. Cawsant fyndi ogof lle’r oedd tegannau yn sownd yn y wal. Wedyn daeth y plant bach o hyd i ogof arall ac roeddant yn gwaeddi ei henwau ac roeddant yn ei glywed yn ateb yn ol iddynt.



Yn yr amffii theatr canodd pawb, a chanodd Geraint ar ei ben ei hun. Gwelsant dy y tylwyth teg a hefyd goeden fawr y mwnciod. Aethant yn eu blaenau a gwelsant goeden oedd wedi dod o America a choeden afalau o Ynys Enlli. Ar ol yr holl hwyl aethant adref.

Ddydd Iau aeth Mrs Harris i weld Elan a mynd a’r holl lythyrau efo hi. Dywedodd Mrs Harris bod Elan wedi blino braidd ond ei bod yn hoffi’r cardiau ac yn edrych ymlaen i gael dod adref.

Hefyd daeth athrawes o Ysgol Glan y Mor i roi gwers Gymraeg i blant blwyddyn 6 ddydd Iau, a daeth Miss Llinos Griffith i siarad efo ni ddydd Gwener hefyd.

Elain a Lauren

Monday, June 04, 2007

Ymweld ag Ysgol Glan y Mor

Dydd Mercher aethom (plant blwyddyn 6) i’r ysgol uwchradd ar y bws yn y bore. Ar ol cyrraedd Glan y Môr aethom i’r neuadd at Miss Llinos Griffiths.

Gosododd hi pawb mewn pedwar grwp, grwp “A” oedd Trefor gyda, rhai o Ysgol Cymerau,ac un o Dremadog ac un o Nefyn.

Yn gyntaf aethom i’r wers technoleg a cawsom lunio arwyddion i’w rhoi ar y drws. Gwnaeth Elain arwydd i’r ddau fochyn cwta sef Rocky a Joni. Gwnaeth Haydn un yn dweud Cymru, gwnaeth Chris un i Jake sef ei gi, gwnaeth Stuart i Laura sef ei chwaer a gwnaeth Lauren un yn dweud Emma sef ei chyfneither fach.

Wedi hynny aethom i gael tost a ‘sgytlaeth yum yum roedd o yn hyfryd. Wedyn aethom yn ol i’r wers technoleg. Am12:00 o’r gloch aethom i gael cinio. Cafodd Lauren ac Elain sbageti coes cyw iar a sglodion, Haydn pei cyw iar a sglodion a greifi, Stuart brechdan twrci a Chris ffa pob, sglodion a bysadd pysgodyn. Roedd y bwyd yn neis iawn.

Ar ol cinio aethom i’r gwers Cymraeg. Yr athrawes oedd Miss Glain Hughes. Roedd rhaid i ni ‘sgwennu 4 paragraph am ein ffrind.

Ar ol gorffen y wers Cymraeg aethom at Mrs Enid Evans a gwneud Saesneg. Roeddem ni yn disgrifio wynebau pobl yn Saesneg. Ar ol hynny pan roedd hi yn amser mynd adref aethom ar y bws. Roedd hi wedi bod yn ddiwrnod gret. Diolch Mr Gareth Jones am adael i ni ddod ar yr ymweliad. Rydym yn edrych ymlaen at fis Medi.

Lauren, Haydn ac Elain