Blog Ysgol yr Eifl

Friday, May 23, 2008

Glan y Mor a Thre'r Ceiri

Ddydd Llun roeddem yn ymarfer rownderi a phel droed yn barod erbyn y gystadleuaeth ar ddiwrnod cyntaf yr hanner tymor nesaf yn Rhostryfan.

Mae yna lawer o blant wedi dod a phres copr i’r ysgol ac mae gennym £24.80 a mwy hefyd. Ddydd Mercher roeddem yn ymarfer rownderi ac pel droed o amser chwarae tan amser cinio.

Ddydd Iau aeth plant blwyddyn 3,4 a 5 i fyny’r mynydd i Dre’r Ceiri ond roedd plant blwyddyn 6 wedi mynd i Ysgol Glan y Môr am y diwrnod. Dyma ychydig o’r hanes gan Luke:

Roedd Ysgol Glan y Mor yn ddifyr iawn. Yn gyntaf cawsom wneud technoleg ac wedyn dyma ni yn cael cinio. Wedi hynny cawsom wersi Cymraeg ac wedyn Saesneg. Fy ngwers orau fi oedd technoleg. Roeddem yn gwneud peth i’w roi ar drws. Amser egwyl fe ges i 2 grempog ac amser cinio mi ges i chips spageti slush puppy a bisged siocled mawr.

Aeth plant bl 3,4,5 a 6 i fyny Tre’r Ceiri ac dyma ychydig o’r hanes. Cawsom gychwyn am 9:30 i fynd i’r bys ac aeth y bys a ni i Llithfaen. Roeddan wedi stopio wrth yml yr allt ac roeddem yn gorfod cerdded i fyny’r allt. Ar ol rhyw 20 munud roeddem yn gorfod cerdded dros gamfa ac ar ol chwarter awr aethom dros gamfa arall.









Wedi i ni gyrraedd y top cawsom archwilio Tre’r Ceiri ac wedi hynny cawsom fwyta ein cinio ac ar ffordd lawr roedd pawb wedi blino ac roedd yr bws yna yn barod. Cyrhaeddodd pawb y bws yn un darn. Ddydd Gwener roedd yna grwpiau i fod i arddio ond doedd Valmai methu dod, ond roedd yna grwpiau efo Mrs Larsen yn gwnio yn y prynhawn.

Leah a Non a Luke

0 Comments:

Post a Comment

<< Home