Blog Ysgol yr Eifl

Friday, March 14, 2008

Wythnos ddistaw - oni bai am y gwynt!

Ddydd Llun roedd yna wynt ofnadwy, felly doeddem ni ddim yn cael mynd allan i chwarae. Ddydd Iau doedd Mr Larsen ddim yna yn y bore ac felly aethom at Mrs Harris ond ar ol cinio roeddem mewn panic am bod Mr Larsen yn hwyr a doedd Mrs Harris methu bod efo niond naeth o gyrraedd digon buan yn y diwedd. Ddydd Gwener ar ol cinio aethom i nofio ac roeddem yn trio bathodynnau. Roedd llawer o blant yn ddigon lwcus i basio.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home