Blog Ysgol yr Eifl

Friday, January 18, 2008

Ymweliad gan yr heddlu

Roedd y tywydd yn ddiflas iawn trwy yr wythnos a doedd neb yn cael llawer iawn o hwyl. Roedd mellt a tharannau ddydd Mawrth. Doedd Miss Griffith ddim yma ddydd Mawrth a dydd Mercher a roedd plant blwyddyn tri a phedwar efo ni tra roedd Mrs Harris efo’r plant bach.

Daeth Dylan yma yn ol ei arfer ddydd Iau er mwyn rhoi gwersi corn i ni. Daeth Mr Williams o’r heddlu i siarad efo ni ddydd Mercher. Siarad am gyffuriau efo ni a dangos cyflwyniad Powerpoint am gyffuriau wnaeth o efo blwyddyn 5 a 6.

Rhai o blant bl 3, 4 a 5 yn chwarae gem efo Mr Williams o'r heddlu.

Cawsom y prawf sillafu heddiw a byddwn yn hel pres i’r NSPCC wythnos nesaf.

Rydym wedi bod yn hel cardiau ar gyfer eu hail gylchu hefyd. Rydym wedi hel llawer iawn o gardiau.



Elin a Ellen xx

0 Comments:

Post a Comment

<< Home