Blog Ysgol yr Eifl

Friday, February 29, 2008

Llun yn y papur newydd, ymweliad a Chae'r Gors a gwefan dda

Yn gynharach yn yr wythnos cafodd Harri, Elliw a Gwenno eu lluniau wedi eu tynnu ar gyfer y papur newydd. Y rheswm am hyn oedd oherwydd bod yr ysgol wedi hel pres tros y flwyddyn a hanner diwethaf i uned gofal arbennig Ysbyty Gwynedd am eu bod wedi edrych ar ol Cadi, hogan bach eu chwaer Awen pan oedd yn sal iawn pan roedd yn fabi. Roedd lluniau o Cadi, Awen, Harri, Gwenno ac Elliw yn y papur. Llwyddodd yr ysgol i hel £466 i’r Uned.




Dydd Mercher aeth plant blwyddyn 3,4,5, a 6 i dy Kate Roberts yng Ngae’r Gors i ysgrifennu cerdd efo’r prifardd Myrddyn ap Dafydd. Cawsom edrych o gwmpas y ty hefyd. Dyma’r gerdd a ysgrifenwyd gennym:











Gwanwyn Ddaw

Golau gwan yw golau’r gaeaf
Golau oer ar hyd Lôn Wen,
Sachau tynn o dan y llechi,
Brigau moel a llwm ar bren;
Ond mae tân yng nghors y bryniau
Ac mae gobaith yn y fflamau.

Melyn cryf y Cennin Pedr,
Blodyn Mawrth, fel agor llaw
Sydd yn dathlu gŵyl y gwanwyn,
Rhoi ffarwel i’r gwynt a’r glaw;
Ac mae cerrig, fel hen eiriau,
Wedi’u hel a’u codi’n waliau.

Ysgol yr Eifl, Trefor gyda chymorth Myrddin ap Dafydd
Cae’r Gors: Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts, 27/02/08


Heddiw cawsom ychydig o sbort yn chwarae gemau am Dewi Sant ar y We. Os ydych chi eisiau chwarae rhai o’r gemau, gallwch wneud hynny trwy fynd yma.

Sioned a Harri

0 Comments:

Post a Comment

<< Home