Ymweliad gan yr Heddlu
Dydd Llun doedd yna ddim ysgol, felly cawsom ni i gyd aros adref.
Dydd Mawrth roedd yn Ddydd Mawrth Crempog a felly cawsom grempog a chawsom hefyd roi pethau ar ben y crempogau - sef sioclet, nutella, syrup, lemon, menyn, banana neu jam.
Ddydd Iau ‘doedd Mr Larsen ddim yn yr ysgol felly roeddem yn nosbarth Mrs Harris ac gorffen ein gwaith celf naethom. Cawsom edrych ar luniau artistiaid fel Gwilym Pritchad. Roedd ei lun o yn defnyddio lliwiau cynnes, David Woodford oedd un arall a’i lun After the Rain, a Joseph Dodd a wnaeth o lun o Gastell Caernarfon roedd yn edrych yn union fel bod wedi ei dynnu fo efo camera.
Ddydd Gwener mi ddaeth PC Dewi Jones a PC Liz.Roberts i’n gweld a mi a mi fuodd nhw yn son am eu gwaith fel heddlu. Cawsom weld y pastwn , yr handcyffs, y radio, y gwregys a hefyd yr helmet a phob math o bethau eraill. Cawsom hefyda wisgo dillad yr heddlu a cawsom hefyd fynd i fewn i’r car a throi’r golau a’r larwm ymlaen.
Leah, Lois a Molly
0 Comments:
Post a Comment
<< Home