Ychydig o newyddion da ar wythnos drist
Yr wythnos yma roeddem yn gorfod aros i mewn amser cinio ohyrwydd bod Yncl John wedi marw. Roedd Yncl John yn byw drws nesaf i’r ysgol, ac roedd y plant i gyd yn ei hoffi am ei fod o mor ffeind efo pawb. Roedd ei gynhebrwng ar ol cinio heddiw.
Ond er ei bod yn wythnos drist cawsom ychydig o newyddion da.
I ddechrau daeth Mr Davies i nol y pres ar ran yr NSPCC. Roeddem wedi casglu £307.50 ac mae mwy o bres i ddod eto.
Hefyd daeth Mrs Christine Jenkins i’r ysgol oherwydd ein bod wedi pasio cam un efo’r Cynllun Ysgol Iach a chyflwynodd ddeilen arbennig i ni yn y gwasanaeth.
Wedyn daeth Mr Gruffydd i roi coeden i ni am ein bod wedi cael medal arian y Cynllun Ysgol Werdd – cawsom ei phlanu yn yr Ardd Wyllt.
Cawsom dystysgrif i ddweud ein bod wedi darllen miliwn o eiriau (a dweud y gwir rydym wedi darllen tros i bedair miliwn o eiriau) ac e bost i ddweud ein bod am gael pres i brynu ffynnon ddwr.
Luke a Jac
Yr wythnos yma roeddem yn gorfod aros i mewn amser cinio ohyrwydd bod Yncl John wedi marw. Roedd Yncl John yn byw drws nesaf i’r ysgol ac roedd ei gynhebrwng ar ol cinio heddiw.
Ond er ei bod yn wythnos drist cawsom ychydig o newyddion da.
I ddechrau daeth Mr Davies i nol y pres ar ran yr NSPCC. Roeddem wedi casglu £307.50 ac mae mwy o bres i ddod eto.
Hefyd daeth Mrs Chridtine Jenkins i’r ysgol oherwydd ein bod wedi pasio cam un efo’r Cynllun Ysgol Iach a chyflwynodd ddeilen arbennig i ni yn y gwasanaeth.
Wedyn daeth Mr Gruffydd i roi coeden i ni am ein bod wedi cael medal arian y Cynllun Ysgol Werdd – cawsom ei phlanu yn yr Ardd Wyllt.
Cawsom dystysgrif i ddweud ein bod wedi darllen miliwn o eiriau (a dweud y gwir rydym wedi darllen tros i bedair miliwn o eiriau) ac e bost i ddweud ein bod am gael pres i brynu ffynnon ddwr.
Luke a Jac
0 Comments:
Post a Comment
<< Home