Blog Ysgol yr Eifl

Friday, February 08, 2008

Drama yn Llanaelhaearn

Mae'r blog yma wythnos yn hwyr - oherwydd i mi anghofio ei phostio! CL

Roedd dydd Llun yn ddiwrnod cyffredin iawn ond ei bod hi yn bwrw glaw trwy y dydd. Mae hi wedi bwrw llawer iawn o law yn ddiweddar

Dydd Mawrth Roedd plant dosbarth 5 a 6 yn dosbarth Mrs Harris am y bora yn gwneud gwaith celf. Cawsom bapur A3 a thorri y papurau mewn sdribedi a’u rhoi nhw ar bapur ac wedyn ar ol gorffen roeddem yn eu gludio nhw.

Dydd Mercher Roedd plant ein dosbarth ni yn nosbarth Mrs Harris trwy’r dydd ac yn cael gwneud celf unwaith eto. Ychydig cyn amser cinio cawsom chwarae gem sut i ddysgu a gwrando.

Ddydd Iau death Dylan yma yn o lei arfer i ddysgu corn ac wedyn aet plant blwyddyn 5 a 6 i Lanaelhean i weld sioe am dor priodas ac roedd yna llawer o ffraeo a crio ac roedd pawb yn drist. Erbyn y diwedd roedd pawb ychydig yn hapusach. Roedd y ddrama yn ddiddorol er ei bod yn drist.






Elin a Sioned

0 Comments:

Post a Comment

<< Home