Blog Ysgol yr Eifl

Tuesday, May 06, 2008

Chwilio mawr yn Nhrefor

Roedd dydd Llun yn ddiwrnod trist braidd yn Nefyn oherwydd bod dyn o Nefyn wedi disgyn i’r mor o’i gwch ac roedd dau helicopter a phedwar bad achub allan yn chwilio amdano. Roeddent yn chwilio am amser maith a dydyn nhw byth wedi ei ffeindio fo.

Bob dydd Gwener bron mae Mrs Larsen yn dwad i wnio efo ni a heddiw mae yna grwp arall yn mynd heddiw. Pob dydd Gwener hefyd mae mam Geraint a Geraint bach yn dod i arddio a heddiw roeddem yn planu tatws yn yr ardd. Mae’r ddwy hefyd wedi bod yn gwneud o gwmpas yr ysgol yn ddel a phlanu planhigion yno.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home