Blog Ysgol yr Eifl

Thursday, May 22, 2008

Wythnos amrywiol

Ar ddydd Llun cawsom chwarae efo rhai o’r tegannau newydd am yr tro cyntaf roeddem yn cael yr hula- hoops. Roedden nhw yn hwyl fawr hefyd.

Ar ddydd Mawrth fe gawsom ni yr rhaffau sgipio a doedd yna neb i ddweud gweddi yng
ngwasanaeth Mr Larsen am ei fod o wedi anghofio dweud wrth rhyw un gwneud weddi.

Ar dydd Mercher daeth Valmai i’r ysgol i blanu tatws efo'r plant oherwydd ei bod yn bwrw ddydd Gwener.

Ar dydd Iau mi aeth athrawes Saesneg o Ysgol
Glan y Mor i roi ymarfer i ni ar sgwrsio yn Saesneg,
trwy wneud dramas gyda ni.

Hefyd cawsom ddechrau gorchuddio map o Romania am bod mae na deg o bobl o Drefor
yn mynd yna am wythnos ac rydan ni yn codi pres iddyn nhw. Ac gwnaethom orchuddio'r map ac wedyn mynd ati i gyfri y pres. Roedd yna £12.60 yna i gyd. Rydym am wneud hyn lawer o weithiau.



Ar ddydd Gwener daeth dynes o'r gwasanaeth
tan i gael sgwrs efo ni am ddiogelwch tan.

Hefyd daeth dynas o wlad bell i son am ei gwaith. Enw y
wlad oedd Seara Leon.

Elizabeth a Molly.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home