Blog Ysgol yr Eifl

Sunday, January 29, 2006

Penblwydd Mozart

Dydd Llun roedd Elain ac Lauren yn rhannu teganau y plant bach ac roedd Haydn a Chris yn rhannu rhai y plant mawr. Mae Chris wedi dysgu sut i siarad Cymraeg yn Llangybi yn ystod y tymor diwethaf. Rydan ni yn lwcus bod gennym ni ddigon o deganau. Cawsant eu prynu efo elw y siop ffrwythau.






Dydd Mawrth daeth Mr Roberts atom o Gaernarfon am bod Mr Larsen mewn cyfarfod. Cawsom stori am y gacen siocled. Roedd hi yn un dda. Yn y pnawn gwnaethom luniau o longau. Porthmadog.

Heddiw rydym yn hel at ein gilydd i gael part i gofio am Mozart. Mae hi’n benblwydd iddo heddiw. Mae Megan a Brodie am chwarae y recorders a byddwn yn cael cacen penblwydd i’w bwyta.




Alun Meirion ac Elain

Friday, January 20, 2006

Athrawes dawns newydd ac ymweliad a Phorthmadog

Ddydd Mercher aethom yn ol i Bwllheli i redeg milltir. Y tro yma llwyddom i redeg o gwmpas y cae ddeg gwaith.

Mae gennym athrawes newydd dros dro ar gyfer ein gwersi dawns. Y rheswm am hyn yw bod Mair ar ei gwyliau yn dawnsio ar rew.

Aeth Bl.5 a 6 i Amgueddfa Forwrol Porthmadog i ddysgu mwy am llongau a’r cychod oedd yn hwylio oddi yno ers talwm. Cawsom ddysgu llawer o bethau. Er enghraifft oeddech chi yn gwybod bod plant yn cael hwylio tros y mor yn 15 oed ond bod rhai yn smalio eu bod yn 15 ond mewn gwirionedd roeddent yn 13 neu. lai?




Hefyd roedd llongau Porthmadog yn hwylio ar draws y Ddaear i gyd – cyn belled a Gogledd America a hyd yn oed Awstralia.



Mr Davies yn dangos yr amgueddfa i ni.

Brodie a Megan

Tuesday, January 10, 2006

Cychwyn Tymor Newydd

Dydd Mercher daethom yn ol i’r ysgol ar ol y gwyliau Nadolig. Roedd pawb yn dweud blwyddyn newydd dda wrth ei gilydd - ond roedd Lauren yn hwyr fel arfer. Yn y p’nawn cafodd plant blwyddyn 5 a 6 brawf mathemateg, a wedyn cawsom wneud gwaith yn arbrofi efo halen a dwr.

Dydd Iau cawsom wasanaeth cyntaf 2006 - OND roedd yna un broblem fach - doedd dim digon o le ar y meinciau i bawb oherwydd bod y plant wedi bwyta gormod o bwdin a siocled dros y Nadolig. Roedd hi’n benblwydd ar Hywel,Rhiannon a Dafydd a dywedodd pawb penblwydd hapus wrthynt.