Diwrnod yn Ysgol Glan y Mor
Aethom ni blant blwyddyn 6 Ysgol yr Eifl Trefor, ar ymweliad i’r ysgol uwchradd sef Ysgol Glan Y Mor heddiw. Y syniad oedd ein bod ni’n cael cyfle i arfer efo’r lle cyn mynd yno go iawn ym mis Medi.
Cododd y bws ni am tua deg munud wedi wyth yn safle’r bws.
Pan gyrhaeddom yr ysgol, y peth cyntaf a wnaethom oedd mynd i’r neuadd at Mrs Menai Jones. Roedd ysgolion eraill yna, sef Ysgol Y Ffor, Cymerau, Chwilog, Rhyd ac Edern.
Y wers gyntaf a gawsom oedd Cymraeg hefo Miss Glain Hughes. Roeddem yn gorfod ysgrifennu tri pharagraff yn disgrifio ein ffrind. Ar ol y wers Gymraeg roedd cyfle i blant cael tost a gwahanol bethau eraill yn ystod yr egwyl.. Ar ol yr egwyl roedd gennym wers gwyddoniaeth gyda Dr Alun Jones. Roeddem yn gorfod rhoi gwahanol diwbiau o bowdwr mewn grwpiau. Wedyn roeddem yn gorfod rhoi dwr yn y tiwbiau a gweld os oedd y powdr yn hydoddi neu beidio.
Ar ol cinio roedd gennym wers technoleg gyda June Parry Lloyd. Gwneud Shortbread oedd ein gorchwyl. Yn y dechrau roeddem yn gorfod cymysgu blawd, menyn a siwgr. Wedyn rhoi y belan yn y tun, a wedyn ei rhoi yn y popty. Tua hanner awr wedyn roedd y Shorbreads yn barod, ond roedd rhaid rhoi siwgr ar ben y Shorbreads. Roedd ein rhai ni yn fendigedig.
Gan Jono a Iolo
0 Comments:
Post a Comment
<< Home