Blog Ysgol yr Eifl

Thursday, June 16, 2005

Hud a lledrith yn yr ysgol

Brynhawn Mercher, Mehefin 15, daeth consuriwr o’r enw Jonny Hay i ddiddori’r plant gyda'i hud a lledrith.

Dyma rai o’r triciau hynod a welsom - tynnodd arian o glust Sion Harri ac hwnnw heb syniad sut aeth y deg ceiniog yno. Llifiodd Gwern yn ei hanner a’i roi yn ol at ei gilydd rhywsut (efallai ei bod yn help bod Gwern yn gweddio trwy’r holl beth).

Tric arall oedd un wnaeth efo Jonathan, pan afaelodd mewn jwg bach o ddwr a rhoi papur deg punt ar y top, a troi y jwg a’i ben i lawr, ac roedd y papur deg punt wedi sticio. Dyma Jonathan yn troi y jwg yn ol i fyny, a tynnu y deg punt o’r top ac roedd y dwr dal ynddo. Rhoddodd Jonny y papur ar dan, wedyn chwythodd ar y tan, ei blygu dair gwaith , ei ail agor, ac roedd yn papur deg punt yn ei ol.

Ar y diwedd dangosodd i blant dosbarthiadau Mrs Harris a Mr Larsen sut i wneud rhai o’r triciau.



Jono a Iolo

0 Comments:

Post a Comment

<< Home