Blog Ysgol yr Eifl

Thursday, June 16, 2005

Dirgelwch lan y mor.

Heddiw aethom i lan y mor Trefor fel un o’n gweithgareddau wythnos fywiog yn yr ysgol.

Roeddem yn cael gwneud unrhyw beth roeddem eisiau ei wneud, (o fewn rheswm). Penderfynodd plant blwyddyn 5 a 6 wneud dau dwll anferthol. Wedyn penderfynodd rhywun gysylltu’r ddau trwy wneud twnel. Cychwynodd David wneud twll arall wrth ochr un o’r tyllau anferthol. Teimlodd rhywbeth tebyg i ddefnydd yn y tywod. Wedyn gwelodd o zip cot. Dechreuodd pawb ei helpu er mwyn cael gwybod beth oedd o. Felly torrwyd un ochr o un o’r tyllau eraill. Roedd pawb yn helpu er mwyn cael gwybod beth oedd y defnydd. Aeth y twll yn fwy ac yn fwy fel roedd yr amser yn mynd yn ei flaen.

Ar ol dipyn cawsom ddiod, darn o gaws, 2 ddarn o fara ceirch a bocs o resyns yr un. Brysiodd plant blwyddyn 5 a 6 i fwyta oherwydd roeddynt eisiau mynd yn ol at y twll er mwyn gweld beth oedd yno. Pan ddaethom yn ol i’r twll cawsom fraw oherwydd bod y llanw wedi dod i mewn, ac roedd ein tyllau wedi llenwi gyda dwr. Ceisiodd pawb gael gwared o’r dwr ond roedd o’n dod i mewn rhy gyflym. Er ceisio gwneud wal i stopio’r dwr doedd yna ddim pwynt – i mewn ddaeth y llanw a boddi’r tyllau. Roedd rhaid mynd yn ol i’r ysgol heb ddarganfod beth oedd y defnydd.

Medi a Kirsty

0 Comments:

Post a Comment

<< Home