Blog Ysgol yr Eifl

Wednesday, June 08, 2005

Cyfeiriannu yn Nant Gwrtheyrn

Aeth plant blwyddyn 5 a 6 i gyfeiriannu efo Ysgol Rhostryfan heddiw. Efallai bod rhai ohonoch ddim yn siwr beth yw cyfeiriannu, ras ydi o, ond efo’r ras yma rhaid darllen map a rasio ar yr un pryd. Os ydym yn mynd yn bell bydd angen chwib a chwmpawd arnom hefyd. Felly mae’n rhaid bod yn dda am redeg a darllen map er mwyn ennill.



Mae Nant Gwrtheyrn yn lle bendigedig i gyfeiriannu yno – neu dim ond i fynd am dro. Mae’r lle yn fendigedig oherwydd ei fod mor ddistaw a fod yna lan y mor a choedwig, lle i ddysgu Cymraeg a chaffi Rhys a Meinir. Mae o hefyd yn lle llawn hanesion diddorol.



Gwnaethom lawer o gyfeiriannu yn ystod y prynhawn, ac yn well na hynny roeddym yn fuddigol, gan ennill o 1 pwynt - buddigoliaeth wych. Roedd yn ddiwrnod arbennig o braf dim mymryn o law yn unman, na chwa o wynt na chwmwl yn yr awyr. Roeddem ni yn lwcus i gael diwrnod mor braf.

Gan Megan a Brodie

2 Comments:

At 5:48 AM, Blogger Rhys Wynne said...

Dwi wedi bod i Nant Gwrtheyrn ddwywaith. Mae'n le hyfryd.

Dwi'n meddwl ei fod yn wych bod gan Ysgol yr Eifl blog ei hun.

Wyddoch chi bod modd newid ymddangosiad y blog fel ei fod yn Gymraeg i gyd? Nid yw'n anodd iawn ac mae cyfarwyddiadau i'w cael yma:
http://maes-e.com/viewtopic.php?p=115945&sid=d1d51e9ef37c9a12851941a9ac9b1e6d

 
At 2:33 PM, Blogger Ysgol yr Eifl said...

Diolch. Caf gip pan y caf amser

 

Post a Comment

<< Home