Blog Ysgol yr Eifl

Monday, June 20, 2005

Prynhawn o gemau

Roedd hi`n ddiwrnod ofnadwy o braf heddiw ac yn yn y pnawn cawsom fynd allan i’r awyr iach i chwarae pob math o gemau. Y peth cyntaf a wnes i oedd cyfeiriannu o gwmpas tir yr ysgol gyda Brodie fy ffrind gorau ac unwaith gyda Lauren hefyd.

Yna fe es i jyglo gyda pheli tennis, roedd hyn yn llawer o hwyl hefyd. Doedd dim rhaid i chi jyglo os nad oeddech yn gallu. Gallech geisio taflu’ pel i mewn i’r fasged yn lle hynny.

Yna at yr hwla hwps a chael llawer o hwyl yma eto. Roedd Brodie yn gallu troi tua deuddeg o hwla hwps o gwmpas ei chanol ar unwaith. Roedd pawb yn helpu ei gilydd a chael hwyl fawr yn gweld pwy oedd yn gallu cadw`r hwla hwps am eu canol hiraf,.

Wedyn cefais gem o ‘sgityls’ yn erbyn Molly, ac yna ymunodd Brodie ac roedd Brodie a Molly yn weddol gyfartal ond fi enillodd (mae’n dda gen i ddweud).

Yna cefais gem o denis byr yn erbyn Brodie. Ei phartner hi oedd Liam, a Molly oedd y mhartner i. Er nad ydw i’n gwybod llawer am denis, mwynheais y gem yn ofnadwy. Yn anffodus Brodie a Liam enillodd.

Cawsom chwarae gem nad ydw i yn siwr o’i henw. Y syniad oedd eich bod yn dal cymaint o linynau oedd wedi eu gosod fel cynffonau ar y plant eraill a phosibl, a phwy bynnag oedd gan y mwyaf o linynnau ar ddiwedd y gem oedd yn ennill. Gwych!!.

Braf iawn oedd gweld y plant bach allan yn mwynhau eu hunain hefyd efo eu ‘sgwtyrs’ a’u beiciau.

Yn olaf cyn mynd adref cawsom fynd at y cowt ac yn ymarfer taflu pel rwyd i’r rhwyd. Doedd yna neb yn mynd ar gyfyl y bel sbwng achos ei bod i yn rhy feddal.

Gan Megan

0 Comments:

Post a Comment

<< Home