Blog Ysgol yr Eifl

Friday, September 19, 2008

Plas Mawr ac ymweliad gan Dechrau Canu, Dechrau Canmol

Dydd Mawrth aethom i gyd o ddosbarth Mrs Harris a’n dosbarth ni i Plas Mawr yng Nghonwy Plas Tuduraidd ydi Plas Mawr a doeddan ni ddim adref tan 4:30. Mi gawsom ni hwyl a cawsom ddysgu llawer am y Tuduriaid.





Ddydd Iau daeth yna pobl ddod i’r ysgol i ffilmio ni yn canu, ac roedd Lois, Non, Leah a Adam yn son am Romania ac mae y rhaglen ar y teledu ar Tachwedd y cyntaf. Dechrau Canu, Dechrau Canmol ydi enw’r rhaglen.




Ddydd Gwener aethom i gyd i’r Ganolfan i gwneud ymarfer corff ac ar ol i ni ddod yn nol rhedodd Bl.3,4,5 a 6 rownd y trac.

Heddiw oedd diwrnod olaf Iwan yma yn cyfri pres - mae'n mynd i Goleg y Drindod i ddysgu bod yn athro o'r wythnos nesaf ymlaen.

Gan Leah a Non

0 Comments:

Post a Comment

<< Home