Wythnos gymysg
Dydd Mawrth pan aeth plant bl.6 i Ysgol Glan y Mor am y diwrnod er mwyn arfer erbyn y flwyddyn nesaf.
Daeth yna ambiwlans awyr i’r ysgol oherwydd roedd yna ddyn yn wael yn y pentref. Roedd rhaid i ni i gyd ddod i mewn wrth i’r hofrennydd geisio glanio ar y cowt.
Mae bl.6 yn paratoi at ein bore coffi diwethaf a’r dyddiad ar hyn o bryd ydi 30 o Fehefin – er mae’n bosibl y bydd rhaid i ni ei newid..
Bydd mabolgampau’r ysgol ar 12 o Gorffennaf ac efallai na fydd Sion yn gallu dod oherwydd mae o yn dod adref oi wyliau ar yr un diwrnod. Mae Sion yn un da iawn, felly bydd gan Bwlcyn gyfle i ennill.
Byddwn yn mynd i gystadleuaeth griced ddydd Mercher – gobeithio y byddwn yn cael lwc.
Ifan ac Osian
O.N Mae Sion Harri yn dweud helo wrth Tracy Thomas.XxXxXxXx