Blog Ysgol yr Eifl

Tuesday, September 21, 2010

Posteri da

Cafodd Mr Larsen lythyr ar ddydd Iau 16 o Fedi yn dweud bod oedd Ifan yn cyntaf a Ben yn ail yn y gystadleuaeth gwneud postar heddwch y Byd. Mae Ifan a Ben yn mynd i Gaernarfon ddydd Mawrth i dderbyn gwobr.

Mae Sion Harri Eccles yn lwcus iawn, mae’n cael mynd ar ei wyliau i wlad Groeg.

Rydan ni hefyd wedi dechrau gwneud gwaith Addysg Grefyddol am y Mwslemiaid, a gwaith Celf am gestyll efo Mrs Harris.

Ifan a Ben

Monday, September 13, 2010

Cestyll, Clwb Gwau a'r Mwslemiaid

Dydd Llun dae 2 hogyn newydd i ein ysgol. Mae un yn bl.6 ag yr un arall yn bl.2. Hefyd aeth Bl.6 i wnio efo Llinos i’r Clwb Gwau a wedyn cafodd pawb fiscedi a diod oren. Dydd Mawrth oedd diwrnod gyntaf Mrs Griffiths yn yr ysgol hefyd.

Ar ddydd Mercher roedd Mrs Harris yn gwneud gwaith efo ni am y Mwslemiaid. Mae nhw yn gorfod gweddio 5 gwaith yr dydd, ac enw yr wweddi ydi Sallah.

Ddydd Iau cafodd plant bl 3,4,5 a 6 i Gastell Cricieth. Cawsom gawod drom ac roedd rhaid i ni fochel yn y tyllau saethu. Roedd hynny yn hwyl fawr a cawsom ddysgu pob math o bethau gwahanol am gestyll.

Ar ddydd Gwener cawsom nofio am y tro cyntaf ers talwm iawn, gan bod y pwll ym Mhwllheli wedi bod ar gau ers dechrau’r haf.

Rhys ac Osian

Lluniau i ddilyn

Friday, September 03, 2010

Wythnos gyntaf yn ol yn yr ysgol

Dydd Iau oedd ein diwrnod cyntaf yn ol yn yr ysgol ar ol gwyliau yr haf.

Yn anffodus mae Lowri wedi symud i fyw i Bwllheli sydd yn golygu ei bod hi wedi symud i Ysgol Cymerau.

Tywysogion Cymru ydi ein thema y tymor hwn a cawsom wneud gwaith am furlun o Llywelyn ein Llyw olaf yn Llanelwedd – sydd yn dangos lle cafodd ei ladd. Cawsom hefyd gem o griced yn y prynhawn.

Hefyd mae yna nifer o blant newydd yn yr Ysgol – Megan, Deio, Caio, Cai, Owain, Osian, Erin, a Harri.



Ac ar ol amser chwarae cawsom ni gyngor ysgol. A chawsom bledleisio i weld pwy oedd yn cael swyddi yn yr ysgol.

Y cadeirydd ydi Steffan Toplis a’r is gadeirydd ydi Owain Hedd. Yr ysgrifennydd ydi Elliw Haf Lewis a’r is ysgrifennydd ydi Geraint Davies.

Mae Llinos wedi bod yn brysur yn ail wneud y llyfrgell - ac mae hi'n edrych yn fendigedig erbyn rwan. Dyma ambell i lun i chi.



Elan a Charlotte