Blog Ysgol yr Eifl

Sunday, January 31, 2010

Wythnos Brysur

Dydd Llun cawsom ddysgu am Santes Dwynwen yn yr ysgol ac mi gawsom chwarae Sion a Sian. Mi gawsom gyfle hefyd ar y ffowntain siocled. Daeth criw o’r llyfrgell i ddarllen soriau i ni hefyd. Roeddynt yn ddigri iawn.

Dydd Mawrth gwnaethom waith am Antartica a hydoddi halen.

Dydd Mercher roedd Mrs Harris hefo ni yn gwneud gwaith am gapeli ac eglwysi. Y prynhawn oedd y tro diwethaf i ni ymarfer ar gyfer y bore coffi. Doedden ni i gyd ddim wedi sylweddoli bod amser yn fflio a’i bod yn amser am bore coffi.

Ddydd Iau cafwyd y bore coffi ac roedd pawb yn nerfys. Roedd Gwenno Natalie Elliw ac Elan wedi gwneud cardiau a’u gwerthu. Diolch i’w rhieni nhw ac i Llinos. Mae y cardiau ar werth pan fydd Meinir Gwilym yn canu dydd Sadwrn. Mi fydd clwb plant yn gwneud cardiau wythnos nesa i hel pres. Ac mae clwb hwyl a sbri yn mynd i wneud yr un peth hefyd. Mae plant dosbarth Miss Griffiths wedi rhoi bwyd allan i’r adar. Ac fe wnaethant fwyd adar i’r plant i gyd fynd adra hefo nhw. Am adar oedd y cyflwyniad bore coffi.hefyd.


Ifan ac Eln

Thursday, January 21, 2010

Eira ac ymarfer at y bore coffi

Dydd Mercher diwethaf roedd yr ysgol ar gau ddydd Mercher oherwydd yr eira mawr.

Wythnos yma mi rydan ni yn ymarfer at y bore coffi. A rydym yn gwneud cyflwyniad am adar. Ddydd Gwener mae yr ysgol yn cau am bod y athrawon yn mynd ar gwrs.

Gwnaeth Llinos wasanaeth i ni heddiw—son am y drychineb yn Haiti oedd hi.

Ar ddydd Llun byddwn yn cael parti Dydd Santes Dwynwen. Am 6.00pm byddwn yn cael disgo sydd wedi ei drefnu gan y Gymdeithas Rhieni.

Guto a Steffan

Friday, January 08, 2010

Wythnos gyntaf y flwyddyn

Dydd Llun dechreuodd yr ysgol yn ol wedi gwyliau’r Nadolig .Daeth tri o blant newydd yma - Molly bl.3 Osian bl.2 ac Alaw bl.meithrin.
Dydd Mawrth roedd hi yn bwrw eira ac roedd y llawr yn wyn. Mae hi wedi bod yn wythnos ofnadwy o oer, ac er na chafodd Trefor cymaint o eira na llawer o lefydd eraill rydan ni wedi gorfod aros i mewn amser chwarae oherwydd bod rhew ar hyd y cowt i gyd.

Dydd Mercher cawsom wersi recorder.

Dydd Iau cafodd Owain a Lowri wersi corn hefo Dylan, wedyn cafodd Lowri wersi ffliwt ac yn ddwyuthaf cafodd Jamie a Elliw eu gwers clarinet.
Dydd Gwener aethom i’r ganolfan hamdden trwy’r holl rew ac eira.

Lowri ac Osian