Blog Ysgol yr Eifl

Friday, November 20, 2009

Ymweld a Rhyd Ddu a gwisgo'n wirion

Adroddiad gan Owain ac Elliw i ddilyn - yn y cyfamser dyma rai lluniau.

























































































































































Friday, November 13, 2009

Siom i blant bl 3 a 4

Dydd Mercher cafodd plant bl 3 a 4 siom ofnadwy oherwydd roedden nhw i fod i fynd i Efail Newydd i chwarae rygbi a hoci yn erbyn timau eraill.

Cawsom weld lluniau o’r cwn tywys yr ydym wedi eu noddi efo’r £450 a godwyd gennym y llynedd. Mi geisiwn roi lluniau ohonynt i fyny cyn bo hir.

Y cwn rydym yn eu noddi:

Otis

Patsy

Kassia

Y llynedd daeth John Elis efo’i gwn tywys Eliott Lowri a George.

Sion

Sunday, November 01, 2009

ein hwythnos

Dydd Llun roedd yr ysgol ar gau.

Dydd Mawrth roedd plant bl.3,45a 6 yn chwarae gemau a gwneud celf.

Ar Dydd Mercher aeth bl.5 a 6 i’r clwb rygbi. Roedd y genod yn chware hoci a’r hogia yn chware rygbi.

Seland Newydd wnaeth ennill yn rygbi a cyfartal oedd hi yn yr hoci rhwng Awstralia a Selad Newydd. Ar yr un pryd gwnaeth plant bl.3a4 fasgiau a balwns.

Ddydd Iau roedd yna fore coffi ac mi wnaeth pawb berfformio yn dda iawn.

Ddydd Gwener roedd bl.0,1,2,3,4,5 a 6 yn mynd i’r Ganolfan Hamdden i wneud ymarfer corff ac ar ddiwedd y dydd mae hi yn newyddion drwg i’r plant oherwydd mae yna waith cartref i ni “oooooooooooo”

Osian ac Ifan