Taith i Bentref Peryglon
Dydd Llun : Diwrnod cyntaf yr tymor ac roedd pawb yn ol yn barod am dymor arall. Roedd Kirsty Hughes efo ni am wythnos.
Dydd Mawrth : Cawsom fynd i Brestatyn i ymweld a Phentref Peryglon gyda Ysgol Rhostryfan. Mae’n lle diddorol iawn efo siop, ty, gardd, stryd, lle chwarae, lan mor a mynyddoedd. Cawsom wybod am bob dim sydd yn beryglys. Daethom adref erbyn 3:50.
Dydd Mercher: Roedd Laura yn cael ei phenblwydd yn 18 a gwnaeth pawb gerdyn iddi.
Dydd Iau: Cafodd Jamie ddamwain ar drampolin Geraint ac mae wedi torri ei fraich yn anffodus.
Dydd Gwener: Aeth paw bi nofio i Bwllheli am y tro cyntaf eleni.
Jamie ac Adam