Blog Ysgol yr Eifl

Monday, March 09, 2009

Pethefnos brysur

Dydd Mawrth roedd hi yn ddiwrnod crempog cawsom ni i gyd wneud y crempog efo Miss Griffiths a Mrs Harris. Roedd y crempog yn fendigedig. Roedd yna ddewis o Jam, Siocled, Siwgwr, Surap, a Menyn a lemon Roedd pawb wedi mwynhau ei grempog yn ofnadwy.

Ddydd Gwener aeth 4 o blant o flwyddyn 6 i Galeri yn Caernarfon hefo Llinos Roberts ein gweithiwr cymynedol Cristnogol yn Nhrefor. Y 4 aeth oedd Adam, Lois, Leah a Non. Roedd Ysgol Llanaelhearn yn dod hefo ni hefyd ar y bws. Pam gyrheddon cawsom wneud offeryn cerdd a dyma yna ddyn o Sri Lanka yn dod i siarad hefo ni. Yna dyma ni’n trio torri record byd am y mwyaf sydd yn bwyta banana.



Dydd Llun roeddem yn dathlu Dydd Gwyl Dewi wrth wisgo pethau coch a pethau cymru. Amser ffrwythau gaethom deisen gri gan Anti Eirian. Naethom ddawnsio gwerin ac dawnsio a canu caneuon gyflym yn y jambori. Naethom ni liwio llun o Dewi Sant ac naeth na rei cynllunio llun ein hun o Dewi Sant.

Ac Ddydd Iau perfformiodd blwyddyn 3,4,5 a 6 yn y bore coffi yn y capel. Buom yn ymarfer drwy yr wythnos. Ein thema oedd diwrnod y llyfr ac roedd pawb efo eu llyfr gorau. Roedd Adam, Non, Lois ac Ben yn siarad am ei llyfr gorau.


















Adam, Leah, Lois a Non