Blog Ysgol yr Eifl

Tuesday, February 10, 2009

Mynd am dro yn yr eira, y bore coffi a'r ci tywys

Dydd Llun roedd plant Bl.3,4,5 a 6 yn cerdded o Faes Caernarfon i Y Galeri ac roeddan ni wedi cael balwns efo hiliwm i mewn ynddynt. Cymryd rhan mewn ymgyrch diogelwch ffyrdd oeddem ni, ac roedd yna eira ym mhob man. Cawsom fisged a diod yn y Galeri ar y diwedd.





Wythnos diwethaf ar y Ddydd Iau aethom i festri Maes Neuadd i’r bore coffi i canu ac adrodd. Ar ol mynd i’r ysgol roedd pawb yn cael ffondw siocled a cawsom ginio a phwdin arbennig.



Yr wythnos yma daeth yna gi tywys i’r ysgol efo ei berchenog, John sydd yn ddall. Rydym ni yn hel pres i cwn tywys ar hyn o bryd. Roedd Guto yn adnabod John, a fo wnaeth ofyn iddo os byddai yn dod i ein hysgol.




Leah a Geraint