Blog Ysgol yr Eifl

Friday, September 19, 2008

Plas Mawr ac ymweliad gan Dechrau Canu, Dechrau Canmol

Dydd Mawrth aethom i gyd o ddosbarth Mrs Harris a’n dosbarth ni i Plas Mawr yng Nghonwy Plas Tuduraidd ydi Plas Mawr a doeddan ni ddim adref tan 4:30. Mi gawsom ni hwyl a cawsom ddysgu llawer am y Tuduriaid.





Ddydd Iau daeth yna pobl ddod i’r ysgol i ffilmio ni yn canu, ac roedd Lois, Non, Leah a Adam yn son am Romania ac mae y rhaglen ar y teledu ar Tachwedd y cyntaf. Dechrau Canu, Dechrau Canmol ydi enw’r rhaglen.




Ddydd Gwener aethom i gyd i’r Ganolfan i gwneud ymarfer corff ac ar ol i ni ddod yn nol rhedodd Bl.3,4,5 a 6 rownd y trac.

Heddiw oedd diwrnod olaf Iwan yma yn cyfri pres - mae'n mynd i Goleg y Drindod i ddysgu bod yn athro o'r wythnos nesaf ymlaen.

Gan Leah a Non

Saturday, September 06, 2008


Dydd Llun doedd yna ddim ysgol – hwnnw oedd diwrnod olaf y gwyliau.

Dydd Mawrth roedd hi yn ddiwrnod cyntaf yn nol yn ysgol ac roedd yna blant newydd yn cychwyn yn yr ysgol, ond doedden nhw ond yn aros yma tan 11:00 o’r gloch. Fe wnaeth pawb bihafio ac roedd pawb wedi mynhau.

Eu henwau oedd Cian, Liam, Delwyn, Jamie, Mari a Caron.

Hefyd roedd dwy berson wedu tyfu yn cychwyn yma. Daeth Laura yn ol atom ni – a bydd hi’n gweithio efo’r plant mawr ar ddyddiau Mawrth, Iau a Gwener. Hefyd bydd Miss Healy yn gweithio efo’r plant bach pob bore.

Gan Leah