Blog Ysgol yr Eifl

Sunday, April 20, 2008

Garddio a gwnio

Ar ddydd Llun cafodd pawb ffrae braidd oherwydd bod roeddem i fod i wneud chwareaon, ond angofiodd llawer o plant eu ddillad.

Ar ddydd Mawrth roeddem yn gorfod dod a phren a rowlyn papur toilet i’r ysgol am ein bod yn gwneud modelau clai gyda Mrs. Harris efo’n gwaith celf.

Ar dydd Gwener, sef heddiw, cawsom nifer o ymwelwyr. Daeth mam a dad Elin a mam Geraint i’r ysgol i’n helpu ni i wneud gardd.





Yn hwyrach ymlaen cawsom redeg a daeth Mrs. Larsen i’r ysgol i helpu rhai o’r plant efo’u gwnio.



Elizabeth.

Friday, April 11, 2008

Ymweliad ag Ysgol Glan y Mor

Dydd Gwener bu hogiau a genod blwyddyn chwech i’r ysgol uwchradd, sef Ysgol Glan y Mor. Roedd yna ddwy ysgol yn hefo ni, ysgol Llanaelhearn ac Ysgol Pentreuchaf. Roeddem ni yn cael ein rhannu i ddau grwp ac roedd yr hogiau yn cael gwneud Ffraneg a Hanes.

Roeddem ni yn edrych ar luinau o’r Ail Ryfel Byd yn y wers hanes, a cawsom siarad ychydig o Ffrangeg yn y dosbarth Ffrangeg.

Roedd pawb yn cael cinio yna Cafodd rhai pobl chips, pizza, fish fingers, cyri, diod a phwdin.

Wiliam a Dafydd

Jade, Kirsty a Miriam yn dod yn ol

Rydym ni, Jade, Kirsty a Miriam wedi dod i ymweld a Ysgol Yr Eifl Trefor. Rydym yn mlwyddyn deg ac ar brofiad gwaith am wythnos gyda Ysgol Glan Y Mor. Fe wnaethom ddewis dod i Ysgol Trefor er mwyn cael profiad i weithio gyda plant. Rydym wedi bod yn newid y dosbarth rydym ynddo. Rhain yw blynyddoedd meithrin at flwyddyn 6. Rydym wedi bod yn cael cymryd rhan yn ei gwersi, grando arnynt yn darllen ac yn helpu rhai plant sillafu. Rydym hefyd wedi bod yn helpu gwneud pethau at yr Ysgol e.e gwneud llyfr gyda llyniau plant blwyddyn 0, 1 a 2 yn y ganolfan hamdden. Hefyd rydym wedi bod yn tacluso llawer o lefydd!! Mae’r tair ohonynt wedi mwynhau cael profiad o weithio yma, mae’r plant a athrawon wedi bod yn dda hefo ni a bysant yn hoffi diolch i Mr Larsen am ein cymryd ni.

Thursday, April 10, 2008

Wythnos Olaf y Tymor

Blog olaf y tymor diwethaf – wedi anghofio ei bostio _CL.

Wythnos yma roedd hi yn wythnos dwythaf yn yr ysgol

Dydd Mercher yn y p’nawn daeth Llinos Roberts i’n gweld, oherwydd bod Bl.3, 4, 5 a 6 yn gwneud gwaith am y Beibl. Felly daeth i siarad am y Beibl.

Ddydd Iau daeth y Parchedig Angharad Roberts i ddweud y stori Iesu yn cael ei groesoelio ac atgyfodi. Yn y pnawn cawsom wneud basgedi Pasg. Wedyn cawsom roi wyau siocled ynddynt a mynd a nhw adref.

Dydd Gwener doedd na ddim ysgol oherwydd ei bod yn Ddydd Gwener Groglith.

Molly a Leah