Blog Ysgol yr Eifl

Friday, January 25, 2008

Ychydig o newyddion da ar wythnos drist

Yr wythnos yma roeddem yn gorfod aros i mewn amser cinio ohyrwydd bod Yncl John wedi marw. Roedd Yncl John yn byw drws nesaf i’r ysgol, ac roedd y plant i gyd yn ei hoffi am ei fod o mor ffeind efo pawb. Roedd ei gynhebrwng ar ol cinio heddiw.

Ond er ei bod yn wythnos drist cawsom ychydig o newyddion da.

I ddechrau daeth Mr Davies i nol y pres ar ran yr NSPCC. Roeddem wedi casglu £307.50 ac mae mwy o bres i ddod eto.



Hefyd daeth Mrs Christine Jenkins i’r ysgol oherwydd ein bod wedi pasio cam un efo’r Cynllun Ysgol Iach a chyflwynodd ddeilen arbennig i ni yn y gwasanaeth.



Wedyn daeth Mr Gruffydd i roi coeden i ni am ein bod wedi cael medal arian y Cynllun Ysgol Werdd – cawsom ei phlanu yn yr Ardd Wyllt.



Cawsom dystysgrif i ddweud ein bod wedi darllen miliwn o eiriau (a dweud y gwir rydym wedi darllen tros i bedair miliwn o eiriau) ac e bost i ddweud ein bod am gael pres i brynu ffynnon ddwr.

Luke a Jac
Yr wythnos yma roeddem yn gorfod aros i mewn amser cinio ohyrwydd bod Yncl John wedi marw. Roedd Yncl John yn byw drws nesaf i’r ysgol ac roedd ei gynhebrwng ar ol cinio heddiw.

Ond er ei bod yn wythnos drist cawsom ychydig o newyddion da.

I ddechrau daeth Mr Davies i nol y pres ar ran yr NSPCC. Roeddem wedi casglu £307.50 ac mae mwy o bres i ddod eto.

Hefyd daeth Mrs Chridtine Jenkins i’r ysgol oherwydd ein bod wedi pasio cam un efo’r Cynllun Ysgol Iach a chyflwynodd ddeilen arbennig i ni yn y gwasanaeth.

Wedyn daeth Mr Gruffydd i roi coeden i ni am ein bod wedi cael medal arian y Cynllun Ysgol Werdd – cawsom ei phlanu yn yr Ardd Wyllt.

Cawsom dystysgrif i ddweud ein bod wedi darllen miliwn o eiriau (a dweud y gwir rydym wedi darllen tros i bedair miliwn o eiriau) ac e bost i ddweud ein bod am gael pres i brynu ffynnon ddwr.

Luke a Jac

Friday, January 18, 2008

Ymweliad gan yr heddlu

Roedd y tywydd yn ddiflas iawn trwy yr wythnos a doedd neb yn cael llawer iawn o hwyl. Roedd mellt a tharannau ddydd Mawrth. Doedd Miss Griffith ddim yma ddydd Mawrth a dydd Mercher a roedd plant blwyddyn tri a phedwar efo ni tra roedd Mrs Harris efo’r plant bach.

Daeth Dylan yma yn ol ei arfer ddydd Iau er mwyn rhoi gwersi corn i ni. Daeth Mr Williams o’r heddlu i siarad efo ni ddydd Mercher. Siarad am gyffuriau efo ni a dangos cyflwyniad Powerpoint am gyffuriau wnaeth o efo blwyddyn 5 a 6.

Rhai o blant bl 3, 4 a 5 yn chwarae gem efo Mr Williams o'r heddlu.

Cawsom y prawf sillafu heddiw a byddwn yn hel pres i’r NSPCC wythnos nesaf.

Rydym wedi bod yn hel cardiau ar gyfer eu hail gylchu hefyd. Rydym wedi hel llawer iawn o gardiau.



Elin a Ellen xx

Friday, January 11, 2008

Ail gychwyn yn yr ysgol ac ymweliad gan yr NSPCC

Ddydd Mawrth daethom yn ol i'r ysgol ar ol wythnos o wyliau. gofynodd Mr Larsen beth gawsom yn anrhegion Nadolig. Roedd Luke wedi cael tedi. Roedd Elli wedi bod ar ei gwyliau i. Dydd Mercher cawsom fynd i ddosbrth Mrs Harris i wneud celf.

Ddydd Iau daeth Mr Davies o'r NSPCC i'r ysgol i son sut i gadw yn saff ac i ofyn i ni hel pres i'r NSPCC trwy wneud cynllun sillafu noddedig. Byddwn yn gwneud hynny wythnos nesaf. Roedd y tywydd yn ofnadwy o wlyb ar y diwrnod hwnnw ac roedd dwr ar hyd y lonydd ym mhob man.



Mr Dennis Davies o'r NSPCC.
Ellie, Elin a Leah