Blog Ysgol yr Eifl

Sunday, September 30, 2007

Sioe iechyd a mwy o ddawnsio

Ddydd Mercher death Mr Diamond yma eto am wers dawnsio arall. Mae na 3 gwers arall i fynd o hyd.

Nos Iau roedd yna ffair iechyd yn y Ganolfan. Rhan o’r Cynllun Ysgol Iach oedd o.

Roedd yna lot o bethau i wneud yna – er enghraifft ymarfer pel droed, kebabs ffrwythau am 20ceiniog a smwddis.

Roedd yna muffins am ddim hefyd a phethau eraill fel ffrisbis, peli, pensiliau, breichledi ac roedd yna sioe sgipio a hwla hwps hefyd a pheiriant rhwyfo. Roedd y bobl wedi tyfu yn cael mesur eu pwysedd gwaed a’u colestrol.

Lluniau o'r Ffair Iechyd















Wiliam

Friday, September 21, 2007

Dawnsio a gweld Elan unwaith eto

Ddydd Mercher daeth Mr Diamond i’r ysgol ac dysgu ni i ddawnsio fel mae pobl yn gwneud yn Brasil - ac roedd o yn hwyl. Roedd yn gwneud pob math o driciau difyr.






Ddydd Iau roeddem yn rhedeg yn y bore a daeth Elan efo'i mam i'n gweld tra'r oeddem wrthi.Cafodd sgwrs a ffrwythau efo ni. Roedd Elan yn edrych yn dda iawn.



Mae ychydig o'r genod yn ymarfer sgipio a hwla hwps trwy'r wythnos hefyd.

Gan Leah a Non

Friday, September 07, 2007

Wythnos gyntaf yn ol ac ymweliad anisgwyl

Hon oedd ein hwythnos gyntaf yn yr ysgol ac roedd saith o blant bach newydd yn cychwyn, sef Cian, Jamie, Caron, Liam, Mared, Mari a Delwyn yn newydd yn y ysgol. Roedd un hogyn blwyddyn 5 yn cychwyn yma hefyd, sef Wil.












Hefyd daeth Sioned o’r coleg i helpu plant bach ac mae pob dim wedi newid – fel pwy sy’n gyfrifol am y ffrwythau a’r llefrith a phob math o bethau eraill.



Cawsom ymweliad anisgwyl gan Sioned o Rownd a Rownd a ddaeth efo Guto i’r ysgol yn y bore – ac roedd ciw mawr o blant wedi hel o’i chwmpas i gael ei llofnod.

Roedd hi'n wythnos dda i Elizabeth - enilliodd y gystadleuaeth Clychau'r Gog - a chafodd nifer o wobrau.







Elin a Sioned