Blog Ysgol yr Eifl

Friday, February 16, 2007

Ymarfer at yr Eisteddfod a ffonau symudol

Dydd Iau Chwerfor 15ed

Ar ol cinio roedd pawb yn cael amser i ymarfer at Eisteddfod Dydd Gwyl Dewi fydd yn cael ei chynnal yn festri Capel Maes y Neuadd ar Fawrth 1. Hefyd cawsom wneud posteri ar gyfer yr Eisteddfod gyda enw ein ty arnynt. Gwnaeth ty Ceiri hetiau gydag enw Ceiri arnynt. Roedd rhai plant wedi dod a tedi i’w addurno, ond doedd neb wedi cael amser i’w haddurno nhw. Felly bydd rhaid i ni eu haddurno nhw rhyw ddydd arall.

Roedd Ffeil i fod i ddod yma’r wythnos yma i’n ffilmio yn ailgylchu ffonau. Doedden nhw methu dod, ond byddant yn siwr o ddod rhyw ddiwrnod arall.



Dydd Gwener Chwerfor 16ed

Heddiw mae hi yn ddiwrnod diwethaf yn yr ysgol diolch byth. Hefyd roedd hi yn ddiwrnod diwethaf i gwneud ymarfer corff am ychydig am bod yr ystafelloedd newid am gael ei ail wneud o fory ymlaen. Ar y bws cawsom 5 hen ffon symudol i’w hail gylchu gan Moto Coch. Hen rhai pobl oedd wedi gadael nhw ar y bws ac erioed wedi dod i ofyn amdanynt ydynt. Dydyn nhw byth am eu cael nhw yn ôl rwan!.

Wythnos fer

Ar dydd Iau roedd hi bwrw eira yn drwm pan ddaethom i’r ysgol, a cawsom ein hel adref yn syth bin, oherwydd yr gwynt a’r eira .

Ar ddydd Gwener doedd na ddim ysgol chwaith am bod roedd yna hyfforddiat i’r athrawon, felly roedd hi’n wythnos fyr. Am wythnos braf.

Elizabeth a Molly

Newyddion da

Doedd Wendy sydd yn dysgu gymastics efo ni yn y Ganolfan Hamdden ddim yma heddiw, felly roedd na rhyw ddyn yn dysgu rugbi i blant blwyddyn 5 a 6. Roedd o yn hwyl.

Cawsom ni chwaneg o newyddion da – mae Enlli yn disgwyl. Gret de !!!!!

Elin a Sera