Blog Ysgol yr Eifl

Friday, June 30, 2006

Ymarfer at y mabolgampau, beioamrywiaeth y mor a Gary'r Clown

Ddydd Mawrth gwnaethom ddechrau ymarfer at fabolgampau’r ysgol. Byddwn yn gwneud pob math o bethau newydd y tro hwn, gan gynnwys ras beics araf, hoci, sgipio, ciciau cosb, ras rhwystrau a mwy.

Ddydd Mercher daeth y ddynas tynnu llun i’r ysgol a thynnu llun yr ysgol i gyd. Hwn fydd y llun ysgol diwethaf i blant blwyddyn chwech.

Ddydd Iau daeth dwy o ferched i’r ysgol. Enw un oedd Alison. Dywedodd llawer wrthym am anifeiliaid y mor. Dangosodd sleidiau a chawsom weithio efo pob math o bethau diddorol o’r mor.








Heddiw rydan ni wedi bod yn edrych ar sioe wyddoniaeth gan glown o’r enw Gary. Roedd y sioe yn ddiddorol iawn a chawsom ddysgu llawer am ddefnyddiau.





Yn y bore daeth Mrs Llwyd o Ysgol Glan y Mor i roi gwers Gymraeg i blant blwyddyn 6.

Brodie a Lauren

Tuesday, June 27, 2006

Tripiau i Gaernarfon, Llanberis, Cricieth, Ysgol Glan y Mor

Ddydd Mawrth aeth bl 5 a 6 i Gaernarfon i edrych ar adeiladau a’u cymharu a rhai Trefor. Ar yr un diwrnod eth y plant bach i Lanberis i weld sut oedd tai yn edrych ers talwm iawn.



Ddydd Iau aeth plant bl.6 i Ysgol Glan y Mor ar y bws ysgol am y tro cyntaf. Roedd plant bl.6 yn meddwl ei fod yn brofiad gwych, ac yn ffordd dda iawn o baratoi ar gyfer mynd i Ysgol Glan y Mor ym mis Medi. Cawsant wersi Saesneg, Cymraeg a Thechnoleg.

Yn y cyfamser aeth gweddill y plant i Gricieth i weld cyngerdd drymiau. Roedd y cyngerdd yn dda iawn – a dwy ddynes oedd yn perfformio.



Ddydd Gwener roedd blwyddyn 5 a 6 yn perfformio ein gwasanaeth ar gyfer y rhieni. Sut i fod yn ffrindiau oedd thema’r gwasanaeth, a chawsom hwyl arno.




Megan ac Elain

Saturday, June 17, 2006

Drama yn Ysgol Glan y Mor, gwersi golff a gwasanaeth y Celtiaid.

Dydd Iau aeth blwyddyn 6 i weld drama yn Ysgol Glan y Mor. Bwlio oedd thema’r ddrama, roedd hi’n ddrama da iawn. Yn y cyfamser roedd plant blwyddyn 3,4 a 5 wedi mynd i Bwllheli i gael Gweru golff.

Ddydd Gwener aeth yr ysgol mynd allan i wneud chydig o ymarfer corf. Roeddem yn rhedeg ac yn amseru ein hunain. Ar ol gwneud hynny cawsom wasanaeth gan blynyddoedd 3 ac 4 am y Celtiaid. Roedd o’n wasanaeth da iawn. Dyma luniau o rhai o’r plant oedd yn cymryd rhan.








Hywel

Sgipio noddedig, y Celtiaid a thynnu lluniau.

Dydd Llun roeddem ni yn ymarfer sgipio at ddydd Gwener, achos byddwn yn cael sgipio noddedig ar gyfer y British Heart Foundation er mwyn codi arian i bobl sydd efo rhywbeth o’i le ar eu calonau.

Ddydd Mawrth roeddem ni eto yn sgipio, ac roedd yr haul yn boeth. Roeddem yn mynd i nol dwr bob chwarter awr. Dydd Mercher roedd yr haul yn boethach byth ac roeddem ni’n chwysu go iawn erbyn hyn.

Ar ddydd Mercher aeth plant blwyddyn 3 a 4 i Nant Gwrtheyrn i astudio'r Celtiaid.

Dydd Iau naeth dynas tyny llunia ddod i’r ysgol ac roedd rhaid i Brodie a Hywel helpu efo’r tynnu lluniau – mynd i nol plant o’r dosbarthiadau ac ati. Ar Ddydd Gwener gwnaethom y sgipio noddedig trwy’r pnawn, ac roedd yr oren a gawsom ar y diwedd yn flasus iawn.

Hywel ac Alun

Thursday, June 01, 2006

Colur, Lan y Mor a'r Fan Llyfrgell

Dydd Mercher, roedd yna gwmni gwerthu colur yn yr ysgol gyda’r nos i godi arian at gronfa’r rhieni. Yn y diwedd codwyd £163 at y Gymdeithas. Da iawn ni, a diolch i Anti Ann am drefnu pethau.

Dydd Iau aeth blynyddoedd 5 a 6 lawr i lan y mor i dynnu lluniau o’r bywyd gwyllt sy’n byw yno. Roedd yna lawer o wahanol blanhigion a chreaduriaid yno. Gafaelodd Hywel Trefor mewn dau granc, shrimp a malwod mor, iych a fi! Daethom yn ol yn griw blinedig ar ol bod ar y creigiau a’r cerrig.

Dydd Gwener death y fan llyfrgell yn dod ond roedd rhai wedi anghofio eu llyfrau ond yn lwcus cawsant fynd adref i’w nol nhw amser cinio.

Lauren ac Elain