Blog Ysgol yr Eifl

Wednesday, May 24, 2006

Oen a Chi ar Dir yr Ysgol

Ddydd Mercher diwethaf daeth ci ar dir yr ysgol. Roedd y ci yn coethi yn uchel iawn pan roedd pawb allan. Wedi amser chwarae ffoniodd Mr Larsen y rhif oedd wedi ei fachu i gwddf y ci, ond doedd y bobl yn gwybod dim amdano. Ci du oedd o. Erbyn amser mynd adref roedd o wedi mynd.

Wedyn ddydd Iau daeth oen ar dir yr ysgol yn y bore. Felly dywedodd Megan a fi wrth y plant i gyd i basio yr oen yn ddistaw bach. Erbyn i ni fynd allan i chwarae roedd yr oen wedi mynd.

Prynhawn dydd Gwener oedd diwrnod diwethaf Miss Huws yn yr ysgol. Mae hi wedi bod yma am fis o’r Coleg yn dysgu sut i ddysgu efo’r babanod. Cafodd arwain pawb wrth gynhesu i fyny am y sgipio ar ei diwrnod olaf yn yr ysgol




Lauren ac Elain

Sunday, May 14, 2006

Diwrnod Celtaidd

Ddydd Iau mi aeth blwyddyn tri a pedwar i Nant Gwyrtheyrn i ddysgu am y Celtiaid. Yn y bore cawsom stori o’r Mabinogi gan Catherine Aran. Wedyn aethom allan at Dafydd i’w helpu i orffen ty Celtaidd.. Cawsom hwyl yn gwneud hyn . Wedyn roedd rhaid i ni orffen stori oedd Nefyn wedi ei ddechrau. Wedyn cawsom fwyd ac amser chwarae bach. Ar ol amser chwarae aethom at y ty Celtiaidd eto i helpu Dafydd. Wedyn aeth Catherine Aran at ii ddarllen y stori roeddem wedi ei chreu. Cyn mynd adref cafodd pawb gyfle i ‘sgwennu ei enw mewn llythrenau Celtaidd.

Wiliam a Jac



Thursday, May 04, 2006

Yn ol yn yr ysgol.

Dydd Llun daethom yn ôl i’r ysgol ar ôl pythefnos o wyliau Pasg. Daeth Hayley, Elin, Elen a Beth yn ol i’r ysgol am wythnos o brofiad gwaith. Maen nhw ym mlwyddyn 10 yn Ysgol Glan y Mor ar hyn o bryd.







Genod Ysgol Glan y Mor.

Hefyd rydan ni wedi ail ddechrau gwersi nofio am y tro gyntaf ers y flwyddyn diwethaf. Roedd yn hwyl cael nofio unwaith eto efo’r ysgol, Roedd rhaid i ni nofio’n rhydd a nofio cefn , nofio brogan a nofio pili pala. Roedd rhai o’r plant bach yn nofio am y tro cyntaf un.

Ddydd Mercher daeth Katy Woodington i’r ysgol o’r British Heart Foundation i son am sut i edrych ar ol ein calonau. Daeth a rhaffau sgipio i’n hysgol, a rwan byddwn yn sgipio pob dydd Gwener yn ogystal a rhedeg a nofio pob dydd Llun.



Rhiannon yn sgipio.

Ar ôl yr ysgol aeth Adran yr Urdd i Borthmadog i chwarae pel-droed saith bob ochr.

Ddydd Iau aeth blwyddyn 6 i Ysgol Glan y Mor i weld y lle am y tro cyntaf. Cawsom ddwy wers Technoleg efo Mr Pleming a cawsom fathemateg efo Mrs Williams. Cawsom ginio yno hefyd. Roeddem yn cael dewis beth oeddym eisiau i’w fwyta.