Blog Ysgol yr Eifl

Friday, October 21, 2005

Gwalltiau Gwirion!

Ddoe daeth Heather i’r ysgol i weithio ar ein murlun ysbwriel.

Heddiw cawsom ddod i’r ysgol wedi gwneud ein gwalltiau yn wirion, a’r p’nawn yma cawsom chwarae gemau a chael hwyl. Roedd rhai gwalltiau yn boncyrs, roedd fy ngwallt igyda phlethi ynddo ac roeddwn wedi ei groesi a’i dynnu i bob cyfeiriad. Ac roedd gwallt gwirion gan Brodie hefyd gyda extentions gwallt yn bob man a byns hefyd. Roedd pawb wedi dod a phunt ar gyfer plant bach yn ysbyty Alderhey. Mae ganddyn nhw dy bobl aros dros nos yna a’i enw Ronald Mc Donald House.

Brodie a Megan

(Bydd lluniau o'r gwalltiau gwirion wythnos nesaf - CL.)

Friday, October 07, 2005

Yr Haul, lliwiau, Lesotho a Sbwriel

Yr wythnos hon ni chawsom fynd ar y gwellt yng nghae’r ysgol am ddau ddiwrnod oherwydd roedd yna rwybeth wedi colli ei liw yn y gwellt. Roedd o’n oren afiach ac roedd yn lliwio ein hesgidiau.

Daeth Heather i’n hysgol ni ddydd Iau. Soniodd am bobl yn taflu sbwriel ar hyd y pentref ac am blant sy’n bwlio plant eraill gyda’r nos. Rydym am wneud murlun sedan i ddangos hyn.

Buon yn gwneud ymchwil am y tywydd yn Lesotho ac am y planedau. ‘Roedd yn waith eithaf caled ond mae yn waith da ac weithiau’n hwyl . Hefyd cawsom ysgrifennu cerddi am liwiau.

Mae’r graffiau yma’n dangos pryd mae’r haul yn codi ac yn machlud mewn gwahanol rannau o hemisffer y gogledd.

Alun Meirion a Megan